Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch. Mae'n bwysig nodi bod y penderfyniad hwn yn cadw'r addewid a wnaethom i ddychwelyd â phenderfyniad, a'r awgrym a roddais ein bod yn credu y gallem wneud rhywbeth i'w hymestyn—ymestyn cyfleoedd mewn gwahanol rannau o Gymru—mewn cwestiynau blaenorol. Rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i siarad am y ffaith bod hwn yn newydd da i ogledd Cymru ond hefyd i orllewin Cymru, oherwydd, fel rydych yn nodi, mae yna heriau recriwtio yng ngorllewin Cymru yn ogystal â'r gogledd. Mae yna swm bach o gyfalaf y byddwn angen ei ddefnyddio i wneud i hyn ddigwydd, ond bydd ei wneud yn y ffordd hon, ar y cyd rhwng pedair prifysgol, yn golygu y gallwn wneud cynnydd cyflymach o ran cynyddu niferoedd a chynyddu cyfleoedd mewn gwahanol rannau o Gymru, oherwydd ceir llawer o dystiolaeth ein bod yn fwy tebygol o weld pobl yn aros yng ngorllewin Cymru a gogledd Cymru os byddant yn cael cyfran fawr o'u hyfforddiant yno.
Mae hyn yn dilyn cytundeb a wnaethom gyda Phlaid Cymru ar sut rydym yn defnyddio rhywfaint o arian yn y gyllideb, ond ni fydd y swm dwy flynedd hwnnw'n ddigon i hyfforddi rhywun drwy gydol eu gradd feddygol. Felly, rydym wedi gwneud y dewis yn y Llywodraeth i gefnogi'r rhaglen astudio hon yn ei chyfanrwydd a sicrhau cynnydd parhaol yn y niferoedd ychwanegol o leoedd hyfforddi meddygol. Felly, mae'n mynd y tu hwnt i'r cytundeb a wnaethom i ymchwilio i'r mater gyda Phlaid Cymru. Mae'n ychwanegiad parhaol, ac edrychaf ymlaen at ddeall mwy, nid yn unig o ran pryd y bydd pobl yn gallu cwblhau eu hastudiaethau i gyd yng ngogledd a gorllewin Cymru, ond hefyd o ran ein gallu i weld beth arall y gallwn ei wneud i gael y math cywir o weithwyr proffesiynol meddygol a chydweithwyr proffesiynol gofal ac iechyd yma yn y gwasanaeth yng Nghymru.