Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Gan feddwl yn benodol am senario ôl-Brexit, roedd y dystiolaeth a glywsom gan gadeirydd ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a soniai am y potensial o borthladdoedd rhydd ac ardaloedd economaidd rhydd yn ddiddorol iawn, oherwydd, mewn gwirionedd, dyna syniad polisi lle y ceir tystiolaeth gref yn fyd-eang ei fod yn gweithio. Mae'n llawer mwy penodol na'r syniad bras o ardal fenter. Yn arbennig, beth bynnag sy'n digwydd dros yr ychydig ddyddiau ac wythnosau nesaf, os cawn ein hunain mewn sefyllfa 'dim bargen' yn y pen draw, gallai porthladdoedd rhydd fod yn offeryn pwysig iawn i lawer o rannau o Gymru, gyda rhai ohonynt yn perthyn i'r ardaloedd menter. Byddai'n lliniaru rhywfaint o'r difrod economaidd gwaethaf a allai ein hwynebu.
Felly, buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych yn rhagweithiol ar hyn. Mae sawl un o feiri gogledd Lloegr wedi datblygu cynigion manwl ar gyfer porthladdoedd rhydd. Maent yn lobïo Llywodraeth y DU yn weithredol iawn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, pe ceid dynodiad gan Lywodraeth y DU, dylai Cymru gael ei chyfran deg. Mae angen inni wneud yn well na hynny. Mae angen inni fod yn datblygu'r achosion busnes yn awr. Ac wrth gwrs, gallai porthladdoedd rhydd gynnwys meysydd awyr—gallai gynnwys Maes Awyr Caerdydd, gallai gynnwys Airbus, wrth gwrs, lle y gallem ddynodi bod gan safle Airbus ym Mrychdyn ei borthladd rhydd ei hun. Mae ganddo'r maes awyr, wrth gwrs, ac mae'n ei ddefnyddio i gludo ei adenydd i Toulouse. Gallai dynodi'r safle Airbus fel porthladd rhydd fod yn ffordd o ymdrin ag unrhyw niwed economaidd o ganlyniad i bolisïau gan Lywodraeth y DU.