Part of the debate – Senedd Cymru am 5:32 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor a'r tîm cymorth am lunio'r hyn y credaf ei fod yn adroddiad diddorol a defnyddiol. Yn groes i'r hyn y mae'r pennawd yn ei awgrymu o bosibl, roedd yr ymchwiliad yn gyfle i ailedrych ar wyth ardal fenter Cymru, yn hytrach na mynd i ble nad oedd unrhyw un wedi bod o'r blaen. Drwy wneud hynny, roeddem yn gallu asesu eu cynnydd hyd yma a helpu i egluro'r ffordd ymlaen, rwy'n gobeithio.
Rwyf am gyfyngu fy mhwyntiau y prynhawn yma i brosiect Dyfrffordd y Ddau Gleddau, ac mae'r prif ffigurau yn hynod o galonogol, gyda mwy na 1,000 o swyddi wedi'u creu, eu diogelu neu eu cefnogi drwy'r cymorth a roddwyd, ac mae hynny'n newyddion rhagorol. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau i ni, bydd bwrdd Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn parhau am dair blynedd arall, hyd at fis Gorffennaf 2021, a'r math hwnnw o sefydlogrwydd sy'n galluogi'r math o gynllunio strategol sy'n sail i lwyddiant y model ardal fenter o ddatblygu economaidd.
Pan roddodd cadeirydd ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau dystiolaeth i ni ym mis Ionawr, gofynnodd am waith penodol—ac rwy'n mynd i'w ailadrodd—i edrych ar botensial porthladdoedd rhydd ar ôl Brexit. Dyna oedd argymhelliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol hefyd, pan ddaeth i ben â'i waith ar borthladdoedd yn yr ymchwiliad Brexit yr haf diwethaf. A gwn ei fod wedi'i grybwyll eisoes, ond rwyf am ailadrodd hynny.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynd ati'n rhagweithiol i sefydlu tîm porthladdoedd dynodedig gyda'r Llywodraeth, ac yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor cadarnhaodd ei fod wedi comisiynu gwaith penodol mewn perthynas â photensial porthladdoedd rhydd, a chynnig unigryw ar gyfer Cymru ar ôl Brexit. Tybed a yw'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny yma heddiw.
Os caf symud ymlaen at ddatblygiad arall, y parth arddangos ynni newydd—gwerthwyd safle Waterstone ac mae'r cwmni'n ceisio caniatâd cynllunio i'w droi'n ganolfan rhagoriaeth ynni adnewyddadwy, ac rwy'n siŵr ei fod yn deilwng o ystyriaeth ddifrifol. Mae ganddo botensial ar gyfer swyddi, hyfforddiant a mewnfuddsoddiad i orllewin Cymru, ond hefyd i'r economi ehangach. Ac yn sgil ffiasgo morlyn llanw Abertawe, credaf ei bod yn hanfodol fod Cymru a Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni gwyrdd o'r fath a ddatblygwyd yng Nghymru, prosiectau na allwn eu hymddiried i'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, mae'n amlwg.