Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Fel y mae ein hadroddiad ar hyn yn nodi, ychydig o dystiolaeth a geir i ddangos bod wyth ardal fenter Cymru wedi bod yn drawsnewidiol o ran creu swyddi, ond mae gwahanol ganlyniadau'n anochel oherwydd mae pob un wedi wynebu heriau gwahanol ac amgylchiadau lleol gwahanol. Mae'n bosibl y gellid ystyried ymddygiad Ysgrifennydd y Cabinet pan fynychodd y pwyllgor ar gyfer ei sesiwn graffu derfynol gyda ni ar yr ymchwiliad hwn, a chyhoeddi ei fwriad i ad-drefnu ardaloedd menter, gan gynnwys uno byrddau Eryri a Môn cyn i ni ei holi a chyn ei fod yn gwybod am ein hargymhellion seiliedig ar dystiolaeth, yn amharchus i'r pwyllgor, yn anffodus. Gan gyfeirio at y gyfatebiaeth â Star Trek yn nheitl Saesneg ein hadroddiad, nid camu'n eofn i fannau lle nad aeth dyn o'r blaen oedd hyn, ond o leiaf mae'n ymddangos ei fod wedi ailfeddwl am yr ad-drefnu yn rhannol bellach.
Wrth dderbyn ein argymhelliad 2, mae'n disgrifio cynnydd rhagorol yn argaeledd gofod llawr masnachol modern. Felly rwy'n ei annog i ailddarllen ein hadroddiad a nodi bod y datganiadau gan dystion yn dweud mai thema gyfredol ymhlith cadeiryddion ardaloedd menter oedd diffyg argaeledd eiddo ar gyfer busnesau a bod yna brinder gofod llawr modern ledled Cymru.
Rwy'n gobeithio y bydd ei ddatganiad y bydd yn gofyn am gyngor gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn canfod y potensial ar gyfer cronfa eiddo masnachol yn rhoi sylw i'r dystiolaeth yn ein hadroddiad fod yna brinder unedau yn gyffredinol, ac ar draws Cymru, fod yna, efallai, ac rwy'n dyfynnu, ddau neu dri o adeiladau diwydiannol gwag yn unig, ac ar wahân i 1 filltir sgwâr ein prifddinas, ni cheir datblygiad hapfasnachol mawr yn unman.
Roedd yn anffodus nad yw Ysgrifennydd y Cabinet ond wedi derbyn mewn egwyddor yn unig ein hargymhellion y dylai Llywodraeth Cymru ddychwelyd at adroddiadau blynyddol ar yr ardaloedd menter gyda data clir wedi'i ddarparu ar gyfer pob ardal, ac y dylai wneud ei blaenoriaethau ar gyfer pob un o'r ardaloedd menter yn eglur, gan gyhoeddi targedau blynyddol clir.
Mae derbyniad mewn egwyddor Ysgrifennydd y Cabinet i'n hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried ei chynnig i uno byrddau Môn ac Eryri o leiaf yn welliant ar ei safbwynt blaenorol. Mae'n cyfiawnhau hyn drwy ddatgan ei fod wedi cymryd cyngor gan gadeiryddion byrddau cynghori ardaloedd menter Ynys Môn ac Eryri, a chyda'i swyddogion, bydd yn ystyried priodoldeb ac amseru uno'r ddau fwrdd ymhellach. Wel, yr wythnos cyn ei ddatganiad i'r pwyllgor ei fod yn bwriadu uno'r ddau fwrdd, cadeiriais y pwyllgor yng ngogledd-orllewin Cymru pan glywsom dystiolaeth gan y byrddau hyn. Mae'n drueni nad oedd ef hefyd wedi cymryd y dystiolaeth hon cyn cyhoeddi ei fwriad rhy gynnar i'w huno.
Yn Nhrawsfynydd, yn ogystal â chynnydd bwrdd Eryri gyda Chanolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr, clywsom ei fod yn gyfrifol am liniaru'r gostyngiad cynyddol yn y lefelau cyflogaeth lleol yn hen orsaf niwclear Trawsfynydd. Ar nodyn cadarnhaol, clywsom hefyd fod y safle'n ymgeisydd ar gyfer datblygu adweithydd modiwlar bach yn y DU yn y dyfodol. Pwysleisiodd y bwrdd yn gadarn ei angen i barhau mewn bodolaeth, ac yn annibynnol oddi ar Ynys Môn gerllaw, er y byddai'n cadw ac yn datblygu ei gysylltiadau cryf â datblygiadau ar Ynys Môn. Roedd lansiad cytundeb sector niwclear newydd £200 miliwn Llywodraeth y DU yn Nhrawsfynydd bythefnos yn ôl yn atgyfnerthu pwysigrwydd hyn, gydag awgrym fod Trawsfynydd yn geffyl blaen ar gyfer datblygu adweithyddion modiwlar uwch, gan rannu hyd at £44 miliwn ar gyfer ymchwil a datblygu, a Pharc Gwyddoniaeth Menai ar Ynys Môn yn lleoliad a ffafrir ar gyfer cyfleuster hydroleg thermol gwerth £40 miliwn. Pan gyfarfuom â bwrdd Ynys Môn, roeddent hwy hefyd yn pwysleisio eu hangen i aros yn annibynnol fel y gallant fwrw ymlaen â'u gwaith ar ardal arddangos ynni llanw Morlais gorllewin Ynys Môn, ar ehangu porthladd Caergybi, ac ar yr orsaf niwclear newydd yn Wylfa Newydd.
Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU ac a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018 yn cadarnhau manteision economaidd sylweddol posibl ynni ffrwd lanw. Gall Ynys Môn fod yn ganolbwynt i arweinyddiaeth fyd-eang ym maes ynni'r llanw, ac mae cynnig twf gogledd Cymru yn cynnwys cyllid ar gyfer Morlais. Clywsom hefyd y mis diwethaf y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau trafodaethau ffurfiol gyda Hitachi ar ddatblygu ac adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn. Ac fel y dywedodd cadeirydd ardal fenter Ynys Môn, Neil Rowlands, wrth Ysgrifennydd y Cabinet a minnau,
Cyfansoddir y bwrdd o bobl Ynys Môn yn bennaf, ac mae'r safon yn eithriadol o uchel ac yn uniongyrchol gysylltiedig. Mae'n hanfodol fod bwrdd ardal fenter Ynys Môn yn parhau.
Diolch yn fawr.