Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Un o'r ffactorau mwyaf diddorol i ddeillio o waith craffu'r pwyllgor ar yr ardaloedd menter oedd y gwahaniaeth rhyngddynt. Roedd ardal fenter Glannau Dyfrdwy ac ardal fenter Caerdydd wedi datblygu'n dda eisoes yn eu sectorau eu hunain, tra bod Ynys Môn, Eryri a Glynebwy yn dechrau o'r dechrau i bob pwrpas, gyda Phort Talbot yn dod iddi'n hwyr yn y dydd. Felly rhaid inni fod yn ochelgar iawn yn ein dadansoddiad o lwyddiant un ardal yn erbyn y llall. Ffactor arall sy'n rhaid inni ei ystyried yw diffyg manylder cymharol y ffigurau a roddwyd yn y lle cyntaf, ar gyfer y gost fesul swydd a grëwyd. Er enghraifft, awgrymwyd bod Glynebwy wedi derbyn £94 miliwn i sicrhau 390 o swyddi'n unig, neu £241,000 ar gyfer pob swydd. Mae'r ffigurau hyn yn gamarweiniol iawn, gan fod dadansoddiad y Llywodraeth o ble y dyrannwyd arian yn yr ardal fenter, yn rhoi ffigur o £88 miliwn ar gyfer trafnidiaeth i ardal fenter Glynebwy. Gan mai cyfeirio at ymestyn y rheilffordd o safle parc yr ŵyl i ganol y dref oedd hwn yn ei wneud, dylid ei ystyried felly fel gwelliant seilwaith cyffredinol ar gyfer y rhanbarth cyfan, nid ar gyfer yr ardal fenter ei hun. Felly, mae'n gamarweiniol iawn inni gyferbynnu'r ffigur hwn ar gyfer y gost fesul swydd a grëwyd neu a ddiogelwyd â Glannau Dyfrdwy, dyweder, lle'r oedd y gost yn ddim ond £4,822. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae'n bwriadu dadansoddi effeithiolrwydd ardaloedd menter yn y dyfodol?
Daeth yn amlwg i'r pwyllgor, ac yn wir i aelodau'r byrddau menter, y byddai'n rhaid diwygio nodau gwreiddiol yr ardaloedd yn sylweddol. Sylweddolodd byrddau'r rhan fwyaf o'r ardaloedd y byddai eu rolau'n tyfu i fod yn alluogwyr twf economaidd yn hytrach na chreu swyddi uniongyrchol. Mewn llawer o achosion, maent wedi gosod y seilwaith ffisegol a gofodol ar gyfer caniatáu i'r twf hwn ddigwydd. Cyfeiriodd llawer ohonynt at y ffactor amser sydd ynghlwm wrth sicrhau bod rhai o'r prosiectau hyn yn dwyn ffrwyth. Dywedodd Mark Langshaw, o fwrdd ardal fenter Glynebwy, y dywed Ysgrifennydd y Llywodraeth y bydd yn cau eleni, fod ganddynt nifer o brosiectau yn yr arfaeth a mynegodd ei bryder ynglŷn â phwy fyddai'n cyflawni'r rhain. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ein hysbysu sut y caiff y prosiectau hyn, ac yn wir y gwaith cyffredinol a wnaed gan yr ardaloedd menter sydd i gau, eu diogelu yn y dyfodol.
Os gofynnwn i ni ein hunain, 'A yw'r ardaloedd menter wedi bod yn llwyddiant?', mae'n anodd dod i gasgliad cadarn oherwydd y gwahanol elfennau sy'n gysylltiedig â'r ardaloedd a'u hamcanion cyffredinol. Efallai mai un o'r pethau cadarnhaol go iawn yw'r mewnbwn a gafwyd gan y byrddau eu hunain, sydd i'w gweld wedi gweithio'n dda gyda llawer o randdeiliaid ac wedi creu rhwydweithiau a mentrau cadarnhaol iawn ar sail leol.
I gloi, credaf fod yn rhaid i bawb ohonom ystyried eu cyflawniad yn erbyn y cwestiwn, 'Beth fyddai wedi digwydd pe na baent wedi'u creu?' Mae yna enghreifftiau o rai, yn enwedig rhai sy'n agos at y ffin â Lloegr, a fyddai wedi bod dan anfantais pe na baent wedi'u gwneud yn ardaloedd menter. Mae Glannau Dyfrdwy, a Glynebwy i ryw raddau, yn enghreifftiau o'r fath. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod yr ardaloedd menter hyd at y 2000au yn brosiectau gwahanol iawn i'r rhai yn yr 1980au, ac felly rhaid ystyried eu cyflawniadau neu eu methiannau o bersbectif gwahanol iawn. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn dal i fod yn argyhoeddedig fod gan yr ardaloedd menter a fydd yn aros ran i'w chwarae o hyd yn natblygiad economaidd Cymru, ac a yw'n fodlon rhoi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni'r hyn a ddylai fod yn nodau diffiniedig eglur ganddynt bellach?