Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:40, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Felly, rydych chi'n sôn am driniaeth ac rwyf i'n eich holi am ddiagnosis. Mae Cancer Research UK wedi ei hyrwyddo, mae clinigwyr yn galw amdano, mae Lloegr yn ei wneud, ac eto, Prif Weinidog, rydych chi'n parhau i ddadlau gyda'r arbenigwyr. Rydych chi'n gwrthod targedau 28 diwrnod nid er lles y cleifion, ond er lles eich cysylltiadau cyhoeddus eich hun. Ni fyddwch yn cyrraedd y targedau hynny ac ni fyddwch yn diwallu anghenion y cleifion hynny.

Prif Weinidog, mae'r dystiolaeth yn eglur: mae pobl mewn ardaloedd tlotach yn cael diagnosis yn hwyrach. Mae data Macmillan data yn dangos bod diagnosis cam 4 yn ein hardaloedd tlotaf hyd at 9 y cant yn uwch o'u cymharu â'u cymdogion cyfoethocach. Ni allwch chi fforddio bod yn dlawd ac yn sâl yng Nghymru y Blaid Lafur. Gallai ymgyrch wybodaeth, mynediad mwy parod at feddygon teulu a gwasanaethau diagnosis newid hyn. Felly, a wnewch chi ymrwymo i greu gwasanaethau diagnosis canser hygyrch ym mhob rhan o Gymru fel nad yw eich diagnosis o ganser yn cael ei adael yn rhy hwyr, pa un a ydych chi'n gyfoethog neu'n dlawd?