Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:39, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Yr hyn y mae meddygon yn ei ddweud wrthyf yw na ellir gwneud hynny ar gyfer pob math o ganser—ei bod hi weithiau'n cymryd mwy o amser i gael diagnosis o rai mathau o ganser. Nawr, mae hi'n gwneud y pwynt ei bod hi'n hynod bwysig, er enghraifft, i bobl gael eu hannog i gysylltu'n gynnar, a hefyd, wrth gwrs, i feddygon teulu gyfeirio pobl yn gynnar ar y llwybr. Rydym ni'n gwybod bod mwyafrif llethol y cleifion canser yng Nghymru yn dechrau eu triniaeth o fewn amseroedd targed. Rydym ni'n gwybod bod nifer yr achosion o ganser yn parhau i gynyddu, a bod triniaeth yn cynyddu o ran cymhlethdod. Mae nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer amheuaeth o ganser y mae angen ymchwilio iddi wedi codi mwy na 36,000 dros gyfnod o bum mlynedd i tua 96,000 o atgyfeiriadau y flwyddyn, sy'n newyddion da yn rhannol o leiaf rwy'n credu, gan ei fod yn golygu bod pobl yn cael eu cyfeirio ymlaen yn gyflymach. Rwy'n ni'n gwybod, wrth gwrs, bod 85.5 y cant o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser drwy'r llwybr canser tybiedig brys wedi dechrau triniaeth bendant o fewn yr amser targed o 62 diwrnod, a bod 97 y cant o'r rheini a gafodd ddiagnosis nad oedd drwy'r llwybr brys wedi dechrau triniaeth bendant o fewn eu hamser targed o 31 diwrnod.