Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Nac ydy, oherwydd, er enghraifft, ym maes iechyd, byddai hynny'n golygu y byddem ni'n edrych ar ad-drefniad arall eto, ac nid yw hynny'n rhywbeth a fyddai'n achosi sefydlogrwydd yn y gwasanaeth iechyd. Mae'n ymwneud ag adnoddau, mae'n ymwneud â sicrhau y gallwn ni ddyrannu cymaint o adnoddau ag y gallwn i iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill, ond mae'n dasg hynod anodd yng nghyd-destun y cyni cyllidol yr ydym ni'n ei wynebu a'r hyn yr ydym ni wedi ei wynebu dros yr wyth mlynedd diwethaf.