Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Diolch, Prif Weinidog. Dywedodd Huw Vaughan Thomas bod adroddiad comisiwn Williams yn nodi'n eglur natur problemau systemig y mae angen eu datrys. Ychwanegodd ei fod yn canfod ei fod yn rhwystredig ac yn gynyddol bryderus nad yw llawer o'r galwadau rhybudd eglur i weithredu y mae Cymru wedi eu clywed dros y degawd diwethaf wedi creu'r newidiadau gwirioneddol sydd eu hangen ar frys bellach, ac nad ydym wedi defnyddio datganoli fel cyfle ar gyfer ailystyriaethau sylfaenol. Felly, Prif Weinidog, a oes diffyg ewyllys gan eich Llywodraeth i wneud yr hyn sydd ei angen i sbarduno newid yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, neu a ydych chi wir yn credu bod y newidiadau a gynigir gan gomisiwn Williams ac eraill yn ddiangen? Diolch.