Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:53, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Nid wyf i'n siŵr a yw'n bolisi UKIP erbyn hyn i gefnogi'r hyn a oedd yng nghomisiwn Williams o ran diwygio llywodraeth leol. Os yw hynny'n wir, yna mae hynny'n ddiddorol. Rydym ni wedi gweld sefyllfa yng Nghymru lle'r ydym ni wedi gweld datblygiad consortia, er enghraifft, ym maes addysg, sydd wedi arwain at ganlyniadau gwell o lawer ar gyfer addysg nad oedd yn wir yn y gorffennol. Ar un adeg, roedd gennym ni chwe awdurdod lleol yn destun mesurau arbennig ac roedd gennym ni un awdurdod lleol a chwalodd yn llwyr yn Ynys Môn—rydym ni'n bell o fod yn y sefyllfa honno. Felly, rydym ni wedi gweithio i wneud yn siŵr bod ein hawdurdodau lleol wedi dod yn fwy cynaliadwy. Ceir heriau o hyd i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd yn y dyfodol, a dyna pryd, wrth gwrs, bydd hi'n ddiddorol clywed barn y pleidiau eraill o ran beth ddylai strwythur gwasanaethau cyhoeddus fod yn y dyfodol, yn hytrach na dweud yn syml, 'Wel, nid ydym ni'n hoffi hyn.' Beth yw barn y pleidiau eraill? Gadewch i ni weld a oes consensws—rydym ni wedi cael yr arolwg seneddol ar iechyd—o ran sut y gallai gwasanaethau cyhoeddus gael eu strwythuro yn y dyfodol.