Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:38, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Cyfoethog neu dlawd, gwledig neu drefol, dyn neu fenyw, mae canser yn glefyd nad yw'n gwahaniaethu, ac eto mae diagnosis yn gwbl i'r gwrthwyneb. Mae gwaith ymchwil diweddar gan Macmillan yn dangos bod diagnosis canser yn y wlad hon yn parhau i fod yn loteri cod post, ac mae ein cymunedau tlotaf yn wynebu diagnosis cyfnod diweddarach yn gyson. Pan fo'r cyfnod yn cael ei gofnodi, cafodd mwy nag un o bob pedwar o bobl yng Nghymru ddiagnosis o ganser yn ei gyfnod hwyraf, sef cyfnod 4. Nid yn unig y mae hyn yn annerbyniol yng nghyd-destun y ffaith mai ein cyfraddau ni yw'r gwaethaf o unrhyw wlad yn y DU, nid yw'n dderbyniol o gwbl. O ran rhai mathau o ganser, mae'r amser aros rhwng amau i gychwyn bod rhywbeth o'i le a diagnosis yr hwyaf yn Ewrop. Rydym ni i gyd yn gwybod bod dal canser yn gynnar yn achub bywydau. Prif Weinidog, gallwch chi achub bywydau. A wnewch chi ymrwymo i bennu a glynu at darged diagnosis canser 28 diwrnod i bawb fel y gallwn ni ddal canser yn gynnar?