Gofal Cartref gyda'r Nos

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:07, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Age Cymru wedi gwneud gwaith pwysig i ddadansoddi'r ddarpariaeth, neu'r diffyg darpariaeth yn hytrach, o ofal cartref yn ystod y nos yng Nghymru. Yn anffodus, dim ond wyth o'r 22 o awdurdodau lleol wnaeth ddarparu ffigurau o ran nifer yr oedolion sy'n derbyn gofal cartref yn ystod y nos. O'r awdurdodau lleol hynny a allai ddarparu ffigurau, gwyddom mai dim ond 1.92 y cant o asesiadau gofal a chymorth arweiniodd at ofal cartref yn ystod y nos. Arweiniodd llai na 2 y cant o asesiadau at ofal cartref yn ystod y nos, gydag amrywiadau eang rhwng awdurdodau lleol.

Beth, felly, mae eich Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg casglu data yn y lle cyntaf ac, yn bwysicach, y diffyg cysondeb a darpariaeth o ran cymorth yn ystod y nos i'n dinasyddion mwyaf agored i niwed?