Gofal Cartref gyda'r Nos

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:08, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym ni eisoes wedi cymryd camau i wella telerau ac amodau'r gweithlu. Rydym ni wedi darparu £19 miliwn o gyllid rheolaidd i awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw weithio gyda darparwyr i gynorthwyo'r gweithlu ymhellach. Rydym ni'n ymwybodol bod nifer o awdurdodau yn defnyddio rhan o'r cyllid hwnnw i dalu cyfradd uwch am gymorth cysgu i mewn. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i weithio gan ddefnyddio, er enghraifft, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gydag awdurdodau lleol er mwyn gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn deall eu dyletswyddau ac i greu mwy o gysondeb. Mae'n anodd iawn, wrth gwrs, deall ar sail unigol a yw rhywun wedi cael ei asesu ai peidio ar gyfer gofal cartref yn ystod y nos, ond mae'n bwysig dros ben bod awdurdodau lleol yn ddigon hyblyg yn eu dehongliad o'r rheoliadau ac yn eu hasesiadau i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.