Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Hwn yw wythfed datganiad y Prif Weinidog, a'r olaf, ar raglen ddeddfwriaethol y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at gael dadl lawn ar y cwestiwn hwn yn yr hydref. Felly, beth sydd gennym ni yn yr wythfed datganiad hwn? Wel, mae uno'r cynghorau yn ôl ar yr agenda bum mlynedd wedi i Gomisiwn Williams ei godi gyntaf. Unwaith eto, mae mater cosbedigaeth resymol, sydd gyda ni bob amser yn ôl pob golwg, yn codi ei ben eto, ac rwy'n edrych ymlaen, o'r diwedd, at weld rhywfaint o gynnydd yn hyn o beth; ac estyniad cyfyngedig o etholfraint pleidlais i rai 16 ac 17 oed. Onid ailbobiad yw hwn fwy neu lai o'r rhaglen ddeddfwriaethol a welsom ni o'r blaen? Pan fo ein democratiaeth, ein cenedl a gwleidyddiaeth drwyddi draw mewn cyflwr o newid, mae angen uchelgais, gwerthoedd, gweledigaeth ac arweinyddiaeth, ac nid wyf yn gweld y pethau hynny'n cael eu cynrychioli yn natganiad heddiw.
Gallwn gytuno bod San Steffan yn siomi Cymru. Ond bwriad y Senedd hon, cartref newydd democratiaeth Cymru, oedd rhoi'r cyfle inni wneud pethau mewn ffordd arall. Pan ddiddymwyd y cynlluniau ar gyfer morlyn llanw, onid ydych chi o'r farn y dylid bod wedi cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer cwmni ynni newydd gwladol Cymreig? Mae'n rhaid inni sicrhau bod y dyfodol yn ein dwylo ni, ac nid caniatáu i San Steffan glymu ein dwylo tu ôl i'n cefnau.
Prif Weinidog, mae cenedlaethau'r dyfodol yn wynebu heriau mawr, ac er bod eich Deddf cenedlaethau'r dyfodol, sy'n cael ei chanmol yn fawr, yn edrych yn dda ar bapur o bosibl, mae'r pwysau'n parhau yn y byd go iawn. Mae newid yn yr hinsawdd yn cyflymu. Rydym yn gadael amgylchedd sy'n gynyddol ddigroeso. Mae llygredd aer yn lladd degau o filoedd bob blwyddyn, a gwastraff plastig yn hagru ein harfordir a chefn gwlad, ond ni cheir Deddf aer glân na chynllun dychwelyd poteli yn unman yn y datganiad hwn. Ble maen nhw? Ble mae'r ddeddfwriaeth i baratoi ein cenedl ar gyfer pŵer i gerbydau hydrogen a thrydan? Yn hytrach na gweithredu, rydych wedi dewis ymosod ar Aelodau ar y meinciau hyn am feiddio gofyn y cwestiynau hyn.
Nawr, Prif Weinidog, rwy'n parchu eich dyhead i greu Llywodraeth ffeministaidd. Rydych wedi dweud eich bod yn awyddus i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel yn y byd i fod yn fenyw. Beth sydd ddim i'w hoffi am hynny? Wel, gallaf ddweud wrthych ein bod ni beth cythraul o ffordd o'r fan honno. Felly, pa ddeddfwriaeth, pa gyfreithiau, pa newidiadau yr ydych yn eu cynnig i wneud hyn yn realiti? Unwaith eto, mae hwn swnio'n fwy fel datganiad bachog nag unrhyw beth o sylwedd, yn fy nhyb i. Mae eich cynllun gofal plant di-uchelgais, nad yw'n mynd i'r afael ag anghydraddoldeb, wedi cael ei fychanu gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am ei reoli, a bydd yn cael ei orfodi drwodd ac rydych yn dal i wrthod galw am ddatganoli gweinyddu lles—un o argymhellion allweddol eich adolygiad cyflym eich hun ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau. Nid ydym yn agos o gwbl at iwtopia ffeministaidd, hyd yn oed o ran uchelgais.
Rwy'n gobeithio bod hepgor y manylion ar Fil iaith Gymraeg yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn cymryd egwyl ac yn meddwl eto. Gwyddoch fod yr angen yno. O dan eich cynigion presennol, onid yw hi'n wir y byddai cwmnïau preifat fel Trago Mills yn cael eu rhyddhau o'u cyfrifoldeb i barchu a diogelu ein hiaith a'n diwylliant? A ninnau wedi gweld cynnydd enfawr mewn rhagfarn wrth-Gymreig, does bosib fod hynny'n dderbyniol.
Gohiriwyd llawer o benderfyniadau allweddol: maint ein Senedd a'r rhai hynny sy'n gallu cymryd rhan yn ein democratiaeth yn un peth, a bu diffyg dewrder dirfawr ynglŷn â'r cwestiwn hwn ac mae hynny wedi bod yn siomedig. Rwy'n gwybod y daw newidiadau yn anochel yn sgil cael Prif Weinidog newydd, ond nid oes amser i aros am brosesau mewnol y Blaid Lafur. Mae Brexit ar y ffordd ac mae'r byd yn dal i droi. Ni chynlluniwyd un darn o ddeddfwriaeth ar gyfer addysg, trafnidiaeth, ynni, yr amgylchedd, tai, gofal cymdeithasol, ffermio, pysgodfeydd, ac eto mae gennym heriau ym mhob un o'r meysydd hynny, onid oes?
Prif Weinidog, mae hon yn rhaglen ddeddfwriaethol o hen syniadau a dim uchelgais. Nid yw'n mynd i'r afael â llawer o'r problemau sy'n wynebu ein pobl. Mae angen gwell na hyn ar Gymru, ac mae modd gwneud llawer mwy.