Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Yn gyntaf, dim ond dweud, unwaith eto, yr awgrymwyd bod uno cynghorau ger ein bron yn anochel; nid felly. Ceir Bil llywodraeth leol; ceir gweithgor wedi ei sefydlu i edrych ar welliannau wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng llywodraeth leol. Mae'n iawn ar yr etholfraint pleidleisio—rydym wedi dwyn hyn ymlaen oherwydd nid ydyw wedi digwydd eto, felly mae'n bwysig yn achos etholiadau llywodraeth leol bod hynny'n rhan o'r broses honno.
Mae'n rhaid imi ddweud, nid yw pasio cyfreithiau ar bethau yn golygu y byddan nhw'n digwydd. Mae angen adnoddau er mwyn i bethau ddigwydd. Mae hi'n dweud bod angen deddfwriaeth i fod â chwmni ynni mewn perchenogaeth gyhoeddus; nid yw hynny'n golygu unrhyw beth oni fydd arian wrth gefn. Os oes arian y tu cefn, o ble y daw hwnnw? Ac o ran o ble y daw, a yw hynny'n golygu bod yr arian ar y llyfrau neu oddi ar y llyfrau? Nid oes un o'r pethau hyn wedi cael eu hesbonio mewn gwirionedd o ran sut y byddai hynny'n darparu ar gyfer pobl Cymru. Rwyf o'r un farn â hi pan mae'n condemnio'r penderfyniad ar forlyn llanw Bae Abertawe oherwydd ein penderfyniad ninnau oedd hwnnw hefyd, ond ni allwn esgusodi San Steffan gan honni bod cynllun i'w gael a fydd yn sicrhau £500 miliwn o fuddsoddiad yn y cyfamser, oherwydd ni fyddai'n gwneud hynny.
O ran cenedlaethau'r dyfodol, rwy'n dychwelyd at y metro—nid yn unig y metro yn y De, ond y cynlluniau ledled Cymru gyfan. Rydym yn gweld system trafnidiaeth gyhoeddus lawer, llawer gwell yn cael ei datblygu ledled Cymru o ran rheilffyrdd trwm, a rheilffyrdd ysgafn a bysiau hefyd ymhen amser. Bydd y dewisiadau hynny, wrth iddyn nhw ddod yn fwy deniadol i bobl, yn golygu y bydd llai a llai o bobl yn defnyddio ceir, bydd llai o bobl yn teimlo na allant feicio neu gerdded i'r gwaith a dyna'r ffordd y gallwn sicrhau ein bod yn gweld gwell ansawdd aer yn y dyfodol. Nid yw cyfraith yn mynd i helpu hynny; newid ymddygiad pobl fydd yn helpu hynny a chynnig dewisiadau gwell na'r hyn sydd ganddyn nhw nawr.
Mae hi'n iawn i ddweud ein bod ni ymhell o fod y wlad fwyaf diogel yn y byd i fod yn fenyw ynddi. Rydym wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd yn yr ychydig fisoedd diwethaf ac mae'n iawn i ddweud bod gennym ni'r Ddeddf trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig sydd yn gyfran falch o'r hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei wneud, ond ceir llawer eto i'w wneud, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny. A dyna pam rydym wedi cael cam un yr adolygiad a pham bydd cam dau yn digwydd ar ôl fy amser i yn y swydd hon, oherwydd bod angen gwneud mwy. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn un maes o'r fath, ond ceir mwy na hynny. Yn fy marn i, mae pethau wedi mynd tuag yn ôl yn y tymor byr o ran y ffordd y mae menywod wedi cael eu trin. Rydym i gyd wedi gweld beth sydd wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rydym i gyd wedi gweld y gwaith sydd yn rhaid ei wneud yno. Felly, cytunaf yn llwyr â hi o ran y ffaith bod angen inni wneud mwy i gyflawni'r hyn y byddai hi a minnau yn dymuno ei weld.
O ran y cynllun gofal plant, mae hi'n dweud na fyddai'n cyflawni, ond nid yw'n cynnig unrhyw dystiolaeth o ran pam na fyddai'n cyflawni. Mae hwn yn gynllun y pleidleisiodd pobl Cymru arno. Roeddem yn glir ynghylch yr hyn y byddem yn ei wneud gyda'r cynllun gofal plant a bydd yn darparu ar gyfer y bobl a bleidleisiodd o'i blaid a'r bobl sydd angen gofal plant i rai tair a phedair oed. Wrth gwrs y byddai'n braf gallu ymestyn hyn, ond nid yw'r adnoddau ar gael i wneud hynny. Felly, dyma'r man pellaf y gallwn ei gyrraedd gyda'r adnoddau sydd ar gael inni.
Roedd hi'n sôn am Fil yr iaith Gymraeg. Y rheswm pam rydym yn ystyried Bil newydd yw oherwydd nad yw Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a ddygwyd ymlaen gan Aelod o'i phlaid hi ei hun, yn ddigonol nac yn gweithio er mwyn pobl Cymru. Felly, mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn gwella'r ddeddfwriaeth—[torri ar draws.] Fe wnaethom ni bleidleisio o'i blaid, ond pleidleisiau Plaid Cymru oedden nhw hefyd, ac felly dyna pam mae angen inni gael system sy'n ceisio annog mwy o bobl i ddefnyddio'r iaith. Wrth gwrs, mae gennym ein targed ar gyfer 2050. Ond ceir rhai agweddau ar y Mesur y mae angen eu cryfhau, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, a dyna'r hyn y bwriadwn ei wneud yn Llywodraeth.
O ran y ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu fel sefydliad, nid fy lle i, â phob parch, yw barnu hynny—mae hynny'n fater i'r Llywydd ac i bob un ohonom ni sy'n Aelodau o'r Siambr hon i weithio ar sut fath o strwythur ddylai fod gennym ar gyfer y Siambr hon. Ceir anghytundeb mawr, nid yn gymaint o ran y niferoedd, ond o ran y system etholiadol a bydd angen datrys hynny yn ystod y misoedd nesaf. Ceir safbwyntiau gwahanol iawn yn y Siambr hon o ran, yn gyntaf, a ddylid cael 80 o Aelodau, ac yn ail, os ceir hynny, sut y cânt eu hethol, ac ni ellir datrys hynny'n gyflym. Bydd angen cryn amser i ddatrys hynny.
Wedyn, o ran y materion eraill a godwyd ganddi, fe sylwais nad oedd hi, yn wahanol, mae'n rhaid dweud, i arweinydd y Ceidwadwyr, wedi rhoi unrhyw syniadau deddfwriaethol gerbron. Nawr, os oes gan Blaid Cymru syniadau, gadewch inni eu clywed a gadewch inni ddeall sut raglen ddeddfwriaethol fyddai ganddyn nhw. Gadewch inni weld pa syniadau sydd ganddyn nhw ar gyfer Biliau, ac wedyn wrth gwrs gallwn weld a fyddai'r mesurau hynny yn ymarferol ac, yn wir, yn deilwng o'u cefnogi cyn belled ag y mae'r Llywodraeth yn y cwestiwn. Rydym ni wedi cyflwyno ein rhaglen ddeddfwriaethol, ac mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef, wrth gwrs, yn ystod y flwyddyn nesaf.