Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr am y datganiad. Mae’r datganiad heddiw, wrth gwrs, yn cadarnhau beth adroddwyd yn y wasg yn sgil cynhadledd y WLGA yn Llandudno, sef, wrth gwrs, eich bod chi yn rhoi’r gorau i’ch cynlluniau i orfodi cynghorau i uno—am y tro, o leiaf. Diolch am wneud y datganiad yn y Siambr, sef y lle priodol ar gyfer cyhoeddi newidiadau polisi pwysig.
Mi oedd y Papur Gwyrdd yn ddiffygiol o ran nad oedd dim dadansoddiad costau wedi’i wneud. Mae’ch crynodeb chi o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd yn dweud bod un rhan o dair o’r rheini a ymatebodd wedi gwneud sylwadau am yr achos ariannol. Awgrymwyd nad oedd yr achos ariannol wedi’i wneud ac nad oedd y costau yn y Papur Gwyrdd wedi’u cwblhau, bod pobl yn credu y byddai costau uno yn uwch nag y rhagwelwyd, neu fod yr arbedion a ragwelwyd eisoes wedi’u gwneud gan lywodraeth leol. Dyma’r ddadl y bues i yn ei chyflwyno’n gyson dros yr wythnosau diwethaf yma, ac un y gwnes i ei chlywed yn aml iawn gan arweinwyr cyngor ar draws Cymru.
Mae’n rhaid imi ddweud, wnes i erioed deall pwrpas y newid cyfeiriad o drywydd rhanbartholi eich rhagflaenydd. Drwy gyflwyno’r Papur Gwyrdd, fe wastraffwyd amser gwerthfawr ac fe grëwyd ansicrwydd diangen. Felly, rydym ni yn cymryd cam yn ôl unwaith eto, ac rydym ni yn edrych—neu rydych chi yn edrych—i greu deddfwriaeth o gwmpas galluogi uno gwirfoddol. Ond, hyd y gwelaf i, dim ond dau gyngor sydd yn fodlon ystyried hynny, sef Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Ond, hyd yn oed fan hyn, mae anghytundeb am yr amserlen, efo Abertawe eisiau uno yn gyflym tra bod Castell-nedd Port Talbot yn gweld rhywfaint o rinwedd uno ag Abertawe erbyn 2026. Felly, mae’n amlwg nad ydy cynghorau yn barod i uno yn wirfoddol. Felly, fy nghwestiwn cyntaf i ydy hwn: pa mor hyderus ydych chi y bydd unrhyw gynghorau yn fodlon gwirfoddoli i uno yn sgil y ddeddfwriaeth yma?
Gan na fydd y ddeddfwriaeth newydd yn dod â chynigion radical gerbron, felly, o ran ad-drefnu cynghorau, efallai y dylem ni droi ein golygon at agweddau eraill o’r ddeddfwriaeth newydd a cheisio gweld i ba ddiben positif y gellid troi’r Bil newydd. Efallai, yn wir, bod yna gyfleon wrth greu darpariaeth ar gyfer diwygio etholiadol. Rydw i'n gwybod eich bod chi, fel fi, yn cefnogi pleidleisiau cyfrannol fel ffordd o fywiogi etholiadau a chynyddu cyfranogiad. Fe soniodd eich rhagflaenydd am gyflwyno pleidleisiau cyfrannol i etholiadau lleol, ond nid oedd o am wneud hynny’n fandadol. I mi, mi ddylai hyn ddigwydd yn gyson ledled Cymru fel nad oes yna system cod post yn cael ei greu, ac, os nad yw’n cael ei wneud yn fater mandadol ar draws cynghorau Cymru, mae perig na fydd o'n digwydd. Felly, fy ail gwestiwn i ydy hyn: a wnewch chi gyflwyno pleidleisio cyfrannol mandadol i etholiadau lleol fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd yma?
Fe all y ddeddfwriaeth newydd hefyd ddechrau mynd i'r afael â'r diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Ar hyn o bryd, dim ond 27 y cant o gynghorwyr Cymru sydd yn ferched, ac mae angen newidiadau pellgyrhaeddol os ydy breuddwyd y Prif Weinidog am Gymru ffeministaidd yn mynd i ddod yn fyw. Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cychwyn ymchwiliad i hyn, gan edrych yn benodol ar sut i orchfygu rhai o'r rhwystrau sydd yn bodoli. Beth am i chithau feddwl am ddulliau i greu newid drwy'r ddeddfwriaeth newydd—cyflwyno cwotâu, er enghraifft, neu ganiatáu rhannu swyddi ymhlith cynghorwyr?
Felly, i gloi, a wnewch chi ymrwymo i gyflwyno newidiadau etholiadol yn y Bil newydd a fydd yn arwain at greu llywodraeth leol mwy amrywiol a chydradd? Diolch.