Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Mi fuaswn i'n hapus iawn i wneud hynny. Rydym ni wedi bod yn trafod ers rhai misoedd y rhannau o'r ddeddfwriaeth a fydd yn delio â diwygio etholaethol, ac fel y mae'r Aelod wedi cydnabod yn ei chyfraniad hi, fel hi, rydw i'n cytuno â PR, pleidleisio cyfrannol, ac rydw i'n credu y buasai hynny yn help i greu lot fwy o amrywiaeth tu fewn i lywodraeth leol ac i sicrhau bod gan lot fwy o bobl y cyfle i sefyll ac i gael eu hethol fel cynghorwyr lleol, a liciwn i weld hynny. Os oes gan yr Aelod unrhyw awgrymiadau ychwanegol i sicrhau ein bod ni'n gallu gwneud hyn trwy newid y gyfraith, rydw i'n hapus iawn i ystyried hynny, ac rydw i'n hapus iawn i ystyried gofyn i'r gweithgor ystyried opsiynau gwahanol i sicrhau bod yna fwy o amrywiaeth tu fewn i lywodraeth leol. Rydw i'n fodlon iawn sicrhau bod gyda ni'r cyfle, gofod a lle i drafod hynny yn ystod yr wythnosau nesaf a'r misoedd nesaf.
Pan fo'n dod i bleidleisio cyfrannol, mae'r Aelod yn ymwybodol o'r datganiad a wnes i ym mis Ionawr am beth ydy cynigion y Llywodraeth yn y maes yma. Rydym ni eisiau cynnig i gynghorau'r grym i newid y system eu hunain. Mi liciwn i gyflwyno polisi fydd yn sicrhau bod gyda ni bleidleisio cyfrannol fan hyn ac i gynghorau ar draws Cymru, ond mae'r Aelod yn ymwybodol nad yw'r gefnogaeth ar gyfer hynny ar gael i ni. Felly, nes bod yna gefnogaeth i hynny, mi fyddwn ni yn parhau gyda'r polisi presennol, ond rydw i'n hapus iawn i ymuno â'r Aelod i ymgyrchu dros bleidleisio cyfrannol ar draws Cymru ac ym mhob rhan o'n sefydliadau democrataidd, o gynghorau i'r lle yma, ein Senedd ni, a Senedd San Steffan. Rydw i'n meddwl ei fod yn bwysig newid ein gwleidyddiaeth ni.
Pan fo'n dod i'r newidiadau, a gaf i ddweud hyn? Mae'r llefarydd Plaid Cymru, Llywydd, wedi canolbwyntio ar un ochr o hyn, sef uno, ac uno cynghorau. Liciwn i edrych yn ehangach na hynny. Beth sy'n bwysig i fi yw ystyried pwysigrwydd y dinesydd ac edrych ar sut ydym ni yn sicrhau bod y dinesydd, lle bynnag maen nhw'n byw, beth bynnag yw'r ddaearyddiaeth, pa bynnag y math o gymuned lle maen nhw'n byw—canol y ddinas neu bentref gwledig—yn cael y math o wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, a'n bod ni yn creu'r math o ddemocratiaeth, atebolrwydd democrataidd a strwythur democratiaeth i sicrhau bod hynny yn digwydd.
Rydw i'n meddwl bod gyda ni gyfle yn fan hyn i fynd lot bellach na sôn dim ond amboutu uno. Nid ydw i eisiau'r drafodaeth yr ydym ni'n mynd i'w chael dros y misoedd nesaf ganolbwyntio ar uno yn unig. Beth rydw i eisiau ei weld yw sut ydym ni'n rhedeg systemau rhanbarthol, sut ydym ni'n penderfynu bod rhai gwasanaethau yn cael eu rhannu rhwng awdurdodau gwahanol, y berthynas rhwng llywodraeth leol a rhannau eraill o'r sector gyhoeddus, y berthynas rhwng llywodraeth leol a'r gwasanaeth iechyd, er enghraifft, sut mae llywodraeth leol yn sicrhau ei bod yn chwarae rôl mwy mewn datblygu economaidd—mae yna sawl cwestiwn yn fan hyn i ni ei ateb, ac mae sawl trafodaeth yr ydym ni'n gallu ei chael dros y misoedd nesaf.
So, rydw i'n gobeithio y byddwn ni'n cael trafodaeth sy'n ehangach na thrafod uno, a thrafodaeth a fydd yn fyw cyfoethog na hynny. Ac rydw i'n credu bod y broses yn ystod y misoedd diwethaf wedi creu sylfaen ac wedi creu sefyllfa wahanol, lle mae arweinwyr llywodraeth leol yn cydnabod bod yn rhaid cael newid ac yn fodlon trafod pa fath o newid rydym ni'n mynd i'w gael. Rydw i'n edrych ymlaen at y math o drafodaeth y cawn ni dros y misoedd nesaf.