Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet a'r Athro Barry am ddangos mor gignoeth, a dweud y gwir, pa mor wael mae Cymru yn cael ei thrin—hynny yw, gwlad sydd â 5 y cant o'r boblogaeth, fel y clywsom ni, ac 11 y cant o'r rhwydwaith rheilffyrdd yn cael 1 y cant o'r buddsoddiad. Wrth gwrs, mae hyn wedi bod yn wir am flynyddoedd.