Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Rwy'n deall y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud yn dda iawn. Lywydd, dosbarthwyd ychydig dros 5,000 eiddo yn fusnesau hunanddarpar yn yr ymarfer casglu data a gynhaliwyd yn 2017, ac o'r rheini, roedd 96 y cant ohonynt, dros 4,800, yn derbyn cymorth gan y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach. Y pwynt ehangach y cyfeiria David Rees ato yw’r achos dros alinio rhyddhad ardrethi i fusnesau bach gyda dibenion cymdeithasol yn ogystal â dibenion economaidd Llywodraeth Cymru. Mae gennym system anwahaniaethol. Mae busnesau’n cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach boed y rhyddhad hwnnw'n hanfodol i'w busnes ai peidio, ac rwy'n awyddus i edrych ar ddiwygiadau a fyddai'n alinio’r arian y mae pwrs y wlad yn ei ddarparu yn y maes hwn yn well gyda'r canlyniadau economaidd a chymdeithasol rydym yn ceisio’u cyflawni.