Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r sector twristiaeth yn faes eang. Mae'n cynnwys lleoedd fel pyllau Glyncorrwg, neu'r beiciau mynydd yng Nglyncorrwg, ond mae rheini hefyd yn cynnwys yr unedau hunanddarpar y mae pobl yn aros ynddynt er mwyn defnyddio'r systemau hynny. Ond maeein busnesau bach hefyd yn gwasanaethu'r sector hunanddarpar hwnnw, ac maent yn gwasanaethu'r gymuned gyfan, ac yn aml iawn fel un busnes o fewn y gymuned honno, a phe bai'r busnes hwnnw'n cael ei golli, ar adegau allfrig, byddem yn gweld y gymuned yn dioddef hefyd. A wnewch chi ystyried ehangu'r cyfleoedd i fusnesau bychain mewn cymunedau, sy'n gwasanaethu'r sector twristiaeth, ond sydd hefyd yn gwasanaethu'r gymuned, gan fod y rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer rhai ohonynt yn golygu, yn ystod oriau allfrig, eu bod yn ei chael hi’n anodd?