Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Gyda Thorïaid yn ymddiswyddo bron bob dydd, ac eraill yn gwneud popeth yn eu gallu i danseilio eu Prif Weinidog sydd dan warchae, rwy’n siŵr nad fi yw’r unig un sy’n credu bod holl ffiasgo trafodaethau Brexit yn peri cryn bryder ar gyfer dyfodol Cymru. Ar yr union adeg pan fo angen bod yn ddigynnwrf er mwyn ymdrin â negodiadau anodd, yr unig beth a welwn yw proses sy'n ymddangos fel pe bai allan o reolaeth ac sy’n ein harwain tuag at y posibilrwydd trychinebus o 'ddim bargen' a'r holl ddifrod y bydd hynny’n ei achosi. Nawr, fel y gwyddoch, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennyf gryn brofiad o negodi, ac un peth rwy'n ei wybod yw eich bod yn rhoi'r gorau i gloddio pan ydych mewn twll. Felly, a fyddech yn cytuno â mi, er lles pawb, ei bod bellach yn bryd galw am seibiant a gofyn i 27 yr UE ymestyn yr amserlen fel y gellir gwneud hyn yn iawn?