Brexit

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:38, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Yn amlwg, mae ein cymheiriaid yn San Steffan wedi pleidleisio fel y maent wedi pleidleisio dros y dyddiau diwethaf. A chyn i Dominic Raab gyfarfod gyda Mr Barnier, yfory rwy’n credu, gyda’r nod o gyflymu’r trafodaethau er mwyn cwblhau'r cytundeb ymadael mewn pryd ar gyfer y terfyn amser ym mis Hydref, deellir bod swyddogion y DU a'r UE wedi cyfarfod ddydd Llun i drafod ffin Iwerddon, y berthynas yn y dyfodol a materion yn ymwneud â’r cytundeb ymadael terfynol, a’u bod wedi cyfarfod ddoe, ac y byddant yn cyfarfod heddiw, i drafod yr 20 y cant sy'n weddill o gytundeb ymadael y DU. Pa gyfraniad rydych chi neu eich swyddogion wedi'i wneud i’r trafodaethau yr wythnos hon, os o gwbl?