Brexit

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:39, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, dymunaf yn dda i Mr Raab yn y trafodaethau y bydd yn eu cael. Pan oedd y Prif Weinidog gyda Michel Barnier ddydd Llun, yn wir fe ddangosodd Mr Barnier destun y cytundeb i'r Prif Weinidog, gan ddangos yr 80 y cant sydd wedi’i gytuno, a'r 20 y cant sydd heb ei gytuno eto. Cawsom gyfle i wneud cyfraniad yno. Mae gennym gyfleoedd o hyd ar lefel swyddogol. A ydynt yn gyfleoedd a ddaw inni mewn ffordd y credwn ei bod yn cyd-fynd â'r cyfrifoldebau rydym ni, a gweinyddiaethau datganoledig eraill, yn eu harfer? Ac a ydym yn cael y math o gyfle a fyddai o gymorth gwirioneddol i lunio cynnig Llywodraeth y DU? Wel, mae arnaf ofn ein bod yn gwybod o brofiad nad yw hynny'n wir. Rydym yn parhau i gymryd unrhyw gyfleoedd sydd ar gael i ni.