Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw, ar ôl yr adroddiad craff a syfrdanol ar dlodi yng Nghymru gan ein pwyllgor. Fel y gwyddoch, dyma'r drydedd elfen o waith ein pwyllgor ar y mater hynod bwysig hwn, ac mae'r adroddiad yn ategu'r angen i Lywodraeth Cymru symleiddio'r polisi a nodi strategaeth greadigol glir i fynd i'r afael â thlodi ac i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu dod o hyd i waith ac incwm da.
Mae bron chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac yn fy etholaeth i, yng Nghonwy, yn benodol, mae 20 y cant o oedolion rhwng 16 a 64 oed yn ddi-waith. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder byth yw mai ychydig iawn o welliant a fu, yn ôl y ffigurau, ers 2005. At hynny, pobl hŷn yn y gweithlu sydd fel mater o drefn yn ei chael hi waethaf. Fel y nododd Prime Cymru,
Mae dwy ran o dair o'r bobl rydym yn gweithio gyda hwy yn dweud eu bod yn dioddef gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithlu.
Ac nid yw'n braf darllen yr hyn y mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ei ddweud, mai 22 y cant yn unig o bobl hŷn sy'n gadael eu swyddi o'u gwirfodd yn hytrach na chael eu gwthio neu eu hannog o'u swyddi. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd cymorth ailhyfforddi a chyflogadwyedd, ond yn fwy na hynny, yr angen i gynlluniau cymorth cyflogaeth Llywodraeth Cymru dargedu'r rheini sydd fwyaf mewn angen, h.y. pobl sydd eisoes yn cael budd o gymorth Llywodraeth y DU. Fel y mae ein hadroddiad yn amlygu, er mwyn sicrhau bod gwaith i bawb, mae angen dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng Nghymru, ac mae'n hollbwysig atal pobl sy'n dychwelyd i'r farchnad swyddi rhag mynd ar goll ym miwrocratiaeth y Llywodraeth, er mwyn sicrhau y gallant gael cyfleoedd sy'n eu galluogi i wella eu hunain, a chael eu hysgogi a'u hailrymuso.
Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynllun cymorth ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a'i Rhaglen Waith ei hun, i agor cyfleoedd i'r bobl hynny gymryd rhan ynddo, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd i uwchsgilio a chael hyfforddiant angenrheidiol. Er fy mod yn falch fod ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn yr adroddiad yn gadarnhaol ar y cyfan, rwy'n siomedig i weld fodd bynnag ei bod yn gwrthod yr argymhelliad i nodi a chyhoeddi strategaeth dlodi glir yn dwyn ynghyd y gwahanol elfennau o waith ar leihau tlodi a sefydlu dangosyddion perfformiad penodol i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio, a bod modd ei chyflawni.
Nododd yr archwilydd cyffredinol yn ei ohebiaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun ei fod, ar ôl ystyried yr adroddiadau niferus yn nodi problemau systemig yng Nghymru sydd angen eu hunioni, yn teimlo'n rhwystredig ac yn fwyfwy pryderus nad ydym wedi defnyddio datganoli fel cyfle i ailystyried yn sylfaenol. Rwy'n ategu'r farn hon, a buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau yma heddiw sut y mae'r argymhellion hyn yn yr adroddiad yn mynd i gael eu datblygu, a pha ganlyniadau y gallwn ddisgwyl eu gweld dros y 12 mis nesaf. Diolch yn fawr iawn.