10. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:49, 18 Gorffennaf 2018

Dyma ni, unwaith eto, yn trafod adroddiad pwyllgor arall sydd wedi derbyn ymateb hynod siomedig gan y Llywodraeth, gyda dim ond chwech o'r 23 argymhelliad yn cael eu derbyn. Mae'r defnydd annerbyniol o 'dderbyn mewn egwyddor' yn cael ei roi ar waith 15 gwaith yn yr adroddiad yma. Er ei bod hi'n wyth mis ers i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ddweud mewn llythyr i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus na ddylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r term 'derbyn mewn egwyddor', 15 gwaith mae o'n digwydd yn fan hyn.

Mae hi'n siomedig iawn fod yna ddau argymhelliad pwysig a chwbl synhwyrol yn cael eu gwrthod—eu gwrthod yn llwyr. Yn gyntaf, argymhelliad 1, sef i

'argymell yn gryf bod strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi yn cael ei chyhoeddi, un sy’n dwyn ynghyd yr elfennau niferus o waith i leihau tlodi i helpu i ddarparu cyfeiriad clir ac i helpu’r Cynulliad i graffu ar ddull y Llywodraeth.'

Yr ymateb oedd gwrthod. Mae’n anodd credu beth sydd yn cael ei ddweud wedyn yn y naratif fel esboniad dros wrthod. Dyma maen nhw’n ei ddweud:

'Dim ond trwy gydgysylltu popeth a wnawn y gallwn ni ymateb yn effeithiol i’r her hirdymor o drechu tlodi.'

Wel, yn union. Dyna’n union pam mae angen strategaeth, i ddwyn yr holl elfennau yma ynghyd o dan un ymbarél. Mae hynny’n gwneud synnwyr llwyr, ond mae’n cael ei wrthod yn fan hyn, yn anffodus.

Yr argymhelliad arall sydd yn cael ei wrthod ydy hwn: mae'r pwyllgor yn argymell,

'fel rhan o unrhyw ystyriaeth o ddatganoli pwerau ar weinyddu'r Credyd Cynhwysol, bod Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad o'r manteision a'r risgiau.'

Yr ymateb eto ydy gwrthod. Beth yn y byd sydd o’i le mewn cynnal dadansoddiad—edrych ar y manteision, edrych ar y risgiau a dod ag adroddiad gerbron? Ac os ydy’r dadansoddiad yn dangos bod yna ormod o risgiau, yna mae hynny wedyn yn mynd i gryfhau dadl y Llywodraeth, sydd yn erbyn meddwl am y syniad o ddatganoli budd-daliadau lles, a’r gwaith o’u gweinyddu nhw. A gawn ni fod yn glir—sôn am y gwaith o’u gweinyddu nhw i Gymru ydyn ni yn fan hyn. Mae dweud peth fel hyn—dyma mae’r Llywodraeth yn ei ddweud fel ymateb i hwn:

'Fel mater o egwyddor, dylai pob un ohonom fod yn gymwys i hawl cyfartal gan ein gwladwriaeth les.'

Wel, wrth gwrs, ond mae dweud rhywbeth fel yna yn ddadl yn erbyn datganoli ac mae’n ddadl beryglus. I mi, un o rinweddau datganoli ydy ein galluogi ni yng Nghymru i dorri cwys ein hunain os ydym ni’n teimlo bod polisïau’r Deyrnas Unedig yn anghydnaws â’n gwerthoedd ni, fel yn yr achos yma. A sôn am newid bychan yr ydym ni mewn gwirionedd—datganoli gweinyddu. Mae’n siom fawr nad ydy’r Llywodraeth yn fodlon cynnal astudiaeth, dim ond edrych arno fo a chyflwyno papur i ni yn sôn am beth fyddai’r manteision, a beth y byddan nhw’n gweld ydy’r risgiau. Rydw i’n falch o ddweud y bydd y pwyllgor yn edrych ar hyn. Mi fyddwn ni fel pwyllgor yn gwneud darn o waith i edrych ar sut y mae datganoli rhannau o weinyddu y system les wedi gallu gweithio yn yr Alban.

Mi wnaf i orffen ar nodyn ychydig bach yn fwy positif. Mi wnaeth ein pwyllgor dynnu sylw at bwysigrwydd lledaenu cyflogaeth sector cyhoeddus ar draws Cymru, ac mae’r adroddiad yn argymell bod mwy o hyn yn digwydd, efo’r ffocws ar ardaloedd difreintiedig. Mae’n hollbwysig lledaenu cyflogaeth allan o’r de-ddwyrain. Wrth i’r Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill ystyried newid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau, wrth iddyn nhw newid lleoliadau, neu wrth greu lleoliadau newydd ar gyfer gwasanaethau, mae hyn yn hollbwysig.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i gaffael, ac fe wnaed nifer o argymhellion ynglŷn â sut y gallai cytundeb economaidd gael ei ddefnyddio i hyrwyddo’r amcanion sy’n cael eu rhannu yma. Hefyd, rydym ni yn edrych ymlaen at weld y cynllun gweithredu ar leihau’r bwlch cyflogau rhywedd, unwaith fydd y bwrdd gwaith teg wedi cyhoeddi ei argymhellion. Mae'n rhaid inni sylweddoli, rydw i'n meddwl, fod cyflogau isel yn fater cydraddoldeb yn ogystal â bod yn fater economaidd.

Rydw i yn credu—rydw i yn gorffen rŵan—fod yr adroddiad yma yn un defnyddiol ac yn un cynhwysfawr. Mae o’n dangos sut y gall Llywodraeth Cymru wneud llawer iawn mwy, petai’n dymuno, ac y mae’n dangos y gall newidiadau cymharol fychan i bolisi wneud gwahaniaeth mawr i’r rhai sydd ar gyflogau isel yng Nghymru.