Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Felly, mae gennym broblemau gyda byd gwaith, sy'n dir peryglus heddiw. Nid yw llawer o swyddi heddiw yn ddim mwy na gwaith, ac ni ellir ei galw'n swydd gyda rhagolygon fel y gellid ei wneud 40 mlynedd yn ôl. Felly, rwy'n llwyr gymeradwyo argymhelliad 12 y pwyllgor, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr yn y sectorau sylfaenol i dreialu grisiau swyddi o fewn cwmnïau i wella gallu gweithwyr i gamu ymlaen yn eu gyrfa yn y cwmnïau hynny.
Nawr, rwyf wedi cael llawer o swyddi yn fy amser—o leiaf 35 ohonynt, pan ddechreuais eu cyfrif—ac efallai y bydd yn syndod i chi glywed i mi gael fy niswyddo o sawl un ohonynt, efallai ddim. Ond mae'n dorcalonnus gwneud gwaith hyd eithaf eich gallu a sylweddoli'n raddol nad oes unrhyw ffordd amlwg o gamu ymlaen yn eich gyrfa mewn gwirionedd, ni waeth pa mor dda y gwnewch y gwaith. Yr unig gymhelliant yw cadw'r swydd ei hun, ac wrth gwrs, mewn economi lle nad yw cyflogau'n codi, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd eich cyflog yn cyd-fynd â chwyddiant hyd yn oed. Arferai fy ngwylltio'n aml fod rheolwyr yn cael eu dwyn i mewn o gwmnïau ar y tu allan i reoli tîm gwaith heb unrhyw wybodaeth am yr arferion gwaith a oedd yn digwydd. Buaswn bob amser yn ffafrio dyrchafu pobl o fewn y tîm, lle bo hynny'n bosibl.
Un o'r problemau sydd gennym heddiw yw bod gormod o bobl yn mynd i mewn i'r farchnad swyddi. Mae hyn yn golygu y cedwir cyflogau'n isel ac nid oes unrhyw gymhelliad i gwmni fuddsoddi yn ei weithlu ei hun. Mae'r diffyg buddsoddiad hwnnw yn ei staff ei hun yn rheswm allweddol pam fod cynhyrchiant heddiw yn waeth yn y DU nag yn yr Almaen er enghraifft. Wrth gwrs, o'n safbwynt ni yn UKIP, yr eliffant yn yr ystafell yw mewnfudo. Os oes gennych system sy'n caniatáu i gannoedd o filoedd o fewnfudwyr ddod i mewn i'ch gwlad bob blwyddyn, rydych yn caniatáu i gyflogwyr gael cyfle i barhau i logi llafur rhad. Mae'n creu marchnad cyflogwyr. Rheolau syml cyflenwad a galw yw'r rhain fel y'u cymhwysir i'r farchnad swyddi.
Wrth gwrs, ni fydd y pleidiau adain chwith yn cytuno â mi fod mewnfudo'n cael unrhyw effaith andwyol ar gyflogau gweithwyr ac ar amodau a gallu gweithwyr i gamu ymlaen yn eu gyrfa. Bydd yn rhaid i mi anghytuno â hwy yn eithaf cryf ar y pwynt hwnnw. Yr hyn y gallwn gytuno yn ei gylch efallai yw'r angen i gwmnïau ddarparu strwythur da er mwyn galluogi gweithwyr i gamu ymlaen yn eu gyrfa, a chytuno bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yr hyn a allant i helpu i sicrhau'r canlyniad hwn. Felly, rwy'n cytuno y gallwn ddefnyddio pethau fel arian Llywodraeth Cymru a chontractau Llywodraeth Cymru fel abwyd i gymell cwmnïau i feithrin grisiau swyddi o'r fath yn eu cwmnïau.
Nawr, mewn perthynas â Llywodraeth Cymru a chontractau sector cyhoeddus, rhaid inni ochel rhag ffyrdd penodol y gall cwmnïau osgoi cydymffurfio â'r rheolau. Er enghraifft, gall Llywodraeth Cymru gyflwyno rheolau ynghylch caffael, fel rydym yn argymell yn argymhelliad 14, ond rhaid inni sicrhau bod y Llywodraeth yn edrych nid yn unig ar brif gontractwr y gwaith, a beth yw eu harferion cyflogaeth, ond hefyd ar arferion gwahanol is-gontractwyr a gaiff eu dwyn i mewn gan y prif gontractwr i wneud y gwaith mewn gwirionedd. Os nad awn i lawr y gadwyn gyflenwi'n drwyadl ac edrych ar hyn yn briodol, gallwch gael prif gontractwyr yn clochdar pa mor dda y maent yn trin eu gweithwyr, ond gan wybod yn iawn fod gan eu his-gontractwyr bobl ar gontractau dim oriau, er enghraifft.
Rwy'n cofio'r hen dystysgrifau Buddsoddwyr mewn Pobl a arferai fod gan gwmnïau yn y 1990au mewn cwpwrdd ffrâm ar y wal. Gwnâi imi chwerthin pan edrychwn ar rai o'r tystysgrifau hynny mewn un neu ddau o leoedd y bûm yn gweithio ynddynt a oedd yn gyflogwyr gwael iawn. Felly, rhaid inni sicrhau nad yw cael rhyw fath o nod Llywodraeth Cymru i gyflogwr da yn gyfystyr â chael deilen ffigys sy'n gorchuddio pob math o arferion drwg oddi tani.
Argymhelliad 23, sy'n ymwneud â datganoli credyd cynhwysol—cyfeiriodd Siân Gwenllian at hyn sawl gwaith yn ei hymateb, ac yn gyffredinol rwy'n cytuno â hi. Nawr, yn UKIP nid ydym wedi cefnogi datganoli taliadau lles, neu fel y mae Siân yn ei alw, datganoli gweinyddu lles. Ond rydym wedi cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi dadansoddiad yn awr o fanteision a risgiau hyn fel y gallwn o leiaf gael dadl gyda'r holl ffeithiau yn dryloyw o'n blaenau. Nid oedd yr argymhelliad hwn yn dweud y dylem gytuno i ddatganoli lles neu ni fyddai'r pwyllgor byth wedi cytuno iddo. Galwad am ddarparu rhywfaint o dystiolaeth yn unig ydoedd.
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi datgan yn y Siambr yn y gorffennol mai'r rheswm pam y gwrthwynebent ddatganoli lles oedd oherwydd y byddai Cymru ar ei cholled yn ariannol. Mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu'r agwedd hon ar eu dadl. Ymddengys bod safbwynt Llywodraeth Cymru bellach wedi newid, ac nid ydynt yn sôn am y ddadl ariannol mwyach. Mae'n ddirgelwch llwyr. Rwyf am ailadrodd y cyngor yn ein hargymhelliad 23, fod angen i Lywodraeth Cymru roi dadansoddiad manteision a risg i ni yn awr i gefnogi'r hyn y mae'r Gweinidogion wedi'i ddweud yn y gorffennol. Diolch yn fawr iawn.