Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Nid oeddwn yn bwriadu siarad am fewnfudo, ond credaf fod sylwadau Gareth Bennett yn galw am eu herio, oherwydd nid wyf yn credu o gwbl fod y problemau a wynebwn yn ein heconomi yn ymwneud â gormod o bobl yn chwilio am waith. Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud llawer mwy â'n hagwedd tuag at y cyfalaf pobl sydd gennym a sut rydym yn ei ddefnyddio, ac yng nghyd-destun awtomatiaeth, mae hwnnw'n fater eithriadol o bwysig.
Rwy'n anghytuno'n llwyr fod diweithdra'n deillio o fewnfudo. Heb fewnfudo, byddai gennym fylchau difrifol yn ein gwasanaethau iechyd gwladol—meddygon, nyrsys, radiograffyddion—yn ogystal â phobl yn gweithio yn y diwydiant lles anifeiliaid, ein milfeddygon, ein peirianwyr, yn ogystal â gweithwyr sy'n cynnal y diwydiant twristiaeth a'r diwydiant amaethyddol. Fe wnawn ddarganfod hyn os—. Rwy'n gobeithio na fydd yn digwydd, ond os yw Llywodraeth y DU yn gwneud cawl llwyr o'r negodiadau gydag Ewrop, fe welwn yn sydyn fod gennym fylchau enfawr wrth geisio cadw ein heconomi a'n gwasanaethau yn weithredol. Rwy'n meddwl ei bod yn gwbl gyfeiliornus i gredu bod yr heriau sy'n wynebu pobl rhag cael gwaith addas i'w priodoli i fewnfudwyr. Credaf eu bod yn gwella'r gweithlu'n fawr ac yn rhoi gwasanaethau o ansawdd gwell i ni. Y broblem sy'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi, fodd bynnag, yw sut i sicrhau nad yw gangfeistri'n rheoli pobl ac yn camfanteisio arnynt.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfu sawl Aelod a minnau â dirprwyaeth o Wlad y Basg, dan arweiniad Arlywydd Llywodraeth Gwlad y Basg. Gwn nad fi yw'r unig un sydd wedi bod yng Ngwlad y Basg yn edrych ar ddiwydiannau Mondragon, sydd wedi llwyddo i'r fath raddau i greu diwydiannau defnyddiol yn gymdeithasol, a hynod gynhyrchiol a llwyddiannus. Ond ar ymweliad ddwy flynedd yn ôl rwy'n cofio bod un ystadegyn wedi glynu yn fy nghof, sef nad ydynt erioed wedi diswyddo unrhyw un o'r holl weithwyr sydd ganddynt, am fod eu polisïau adnoddau dynol yn cyd-fynd mor agos ag anghenion unigol pobl a allai fod ag anghenion iechyd meddwl neu anghenion hyfforddi fel nad oes angen iddynt ddiswyddo pobl byth. Efallai y bydd angen iddynt eu hannog i newid eu patrwm gyrfa, ond mae hynny'n fater hollol wahanol. Felly, mae yna lawer iawn y gallem ei ddysgu gan Brifysgol Mondragon ynglŷn â hyrwyddo arferion cyflogaeth foesegol ar draws ein busnesau—cyhoeddus a phreifat.
Yn rhan o'r ddirprwyaeth, roedd nifer o bobl, gan gynnwys Gweinidog yr economi. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn nisgrifiad Lesley Griffiths o'i hymweliad â Gwlad y Basg ym mis Mehefin i edrych ar eu hymagwedd tuag at y diwydiant bwyd, sydd, wrth gwrs, yn un o bedair elfen economi sylfaenol Llywodraeth Cymru. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn ymagwedd y Basgiaid tuag at fwyd, nad yw'n ymwneud yn unig â hybu a marchnata bwyd ar gyfer y farchnad dwristiaeth a bwytai o ansawdd da sy'n gwasanaethu ymwelwyr. Maent hefyd yn canolbwyntio ar anghenion maeth eu cenedl gyfan, gyda diddordeb arbennig yn y bwyd maethlon ffres sydd ei angen ar gyfer grwpiau allweddol, sef plant a phobl oedrannus—pensiynwyr, mewn cartrefi preswyl ac yn eu cartrefi eu hunain—er mwyn sicrhau eu bod yn bwyta'n iawn, a hefyd pobl a wynebai risgiau i'w hiechyd. Soniodd am ganser a diabetes. Buaswn yn ychwanegu gordewdra, ond rwy'n tybio nad oes gan Wlad y Basg lefelau gordewdra tebyg i'r hyn sydd gennym yn y wlad hon.
Felly, o edrych ar y diwydiant bwyd a'r argymhellion y mae'r Llywodraeth yn eu derbyn mewn egwyddor yn unig, gwyddom fod y diwydiant bwyd yn sector cyflogau isel, sy'n dibynnu cryn dipyn ar fewnfudwyr Ewropeaidd i lenwi bylchau yn y gweithlu nad yw pobl eraill eisiau eu llenwi am fod y cyflogau'n isel ac am fod yr amodau gwaith yn eithaf heriol. Ond mae angen inni nodi eu bod yn allweddol ar gyfer cynaeafu ffrwythau a llysiau, edrych ar ôl anifeiliaid mewn lladd-dai, yn y ffatrïoedd prosesu—yn wir, ym mhob agwedd ar y gadwyn fwyd. Mae angen inni boeni sut y cawn bobl eraill yn eu lle pe bai'r mewnfudwyr Ewropeaidd hyn yn diflannu.
Felly, roeddwn yn bryderus fod llawer o argymhellion y Llywodraeth i adroddiad sy'n hir, rhaid cyfaddef, yn argymhellion mewn egwyddor. Rydych yn sôn am gynlluniau galluogi, ond heb lawer o fanylion ynglŷn â sut rydych yn mynd i ddatrys rhai o'r pryderon sydd gennym ynghylch y gwahaniaethu systematig yn erbyn menywod, er enghraifft, naill ai cyn neu ar ôl iddynt gael plant. Yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y gall ddweud wrthym beth oedd canlyniadau'r symposiwm ar 13 Gorffennaf a grybwyllir mewn un neu ddau o'ch atebion, neu ymateb y Llywodraeth.