Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Hoffwn ddefnyddio'r ddadl fer hon heddiw i drafod manteision cyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd trefol mewnol a pham y credaf y dylai hwn fod yn bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan. Byddai 20 mya mewn grym ar draws y wlad mewn ardaloedd adeiledig, preswyl lle mae pobl yn byw. Byddai awdurdodau lleol yn gallu eithrio ffyrdd pe bai amgylchiadau lleol yn cyfiawnhau hynny. Byddai hyn yn gwrthdroi'r sefyllfa bresennol lle mae 30 mya mewn grym yn gyffredinol yn amodol ar gyfyngiadau is ar gyfer ffyrdd penodol.
Ceir manteision niferus: mae'n gwneud ffyrdd yn fwy diogel er mwyn diogelu bywydau ac yn galluogi cymunedau lleol i adennill eu strydoedd. Byddai hynny'n hwyluso chwarae, beicio a cherdded, a mwy o gydlyniant a rhyngweithio cymunedol. Mae hwn, Lywydd, yn syniad ac yn bolisi y mae ei amser wedi dod yn fy marn i. Mae eisoes wedi'i sefydlu ac ar gynnydd ar draws y byd. Yn yr Iseldiroedd, mae terfyn cyflymder isaf o 30 km neu is ar 70 y cant o ffyrdd trefol. Yng ngwledydd Sgandinafia, mae'n dod yn norm mewn pentrefi a threfi. Yn wir, ledled Ewrop, mae'r cyfyngiadau hyn yn cael eu gosod yn gynyddol ar draws awdurdodau cyfan, gydag eithriadau ar gyfer ffyrdd mawr gyda chyfleusterau ar wahân megis llwybrau beicio. Mewn cymhariaeth, mae'r DU wedi dechrau'n hwyr, ond yn y 10 mlynedd diwethaf, mae dros 25 y cant o'r boblogaeth wedi elwa o gael terfyn cyflymder o 20 mya ar y strydoedd lle maent yn byw, yn dysgu, yn siopa neu'n gweithio.
Mae llawer o'n dinasoedd mawr, gan gynnwys Bryste, Manceinion a Chaeredin wedi gwneud y newid; mae 43 y cant o Lundeinwyr yn byw ar ffyrdd o'r fath, a 75 y cant o bobl ym mwrdeistrefi Llundain fewnol. Mae Bryste wedi cael llwyddiant mawr yn mabwysiadu'r dull hwn, ac mae siroedd cyfan hyd yn oed, megis swydd Gaerhirfryn, Sefton, Calderdale, Clackmannan a Fife, wedi gwneud hynny. Mae ein cyd-wledydd datganoledig hefyd yn ystyried cyflwyno'r polisi hwn. Ym mis Tachwedd y llynedd, yn yr Alban, cynigiodd yr MSP gwyrdd, Mark Ruskell, Fil i'r perwyl hwn. Mae'n destun ymgynghori ar hyn o bryd, a byddai'n hynod o arwyddocaol ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd os caiff ei basio. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth.
Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru wedi gweld dros 3,000 o ddamweiniau traffig ceir a arweiniodd at anaf neu farwolaeth. Yn ninas Casnewydd lle rwy'n byw, cafwyd mwy na 140 o ddamweiniau a thair ohonynt yn angheuol, yn drasig iawn. Mae angen gweithredu pellach i ostwng y niwed hwn i'n teuluoedd a'n cymunedau. Wrth yrru drwy ystadau tai cymdeithasol gyda cheir wedi'u parcio ar hyd y ddwy ochr i'r ffordd a phlant yn chwarae, nid oes gan yrwyr fawr iawn o amser i ymateb os yw plentyn yn rhedeg i'r ffordd rhwng cerbydau sydd wedi'u parcio. Mae adroddiad diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru gan Dr Sarah Jones yn awgrymu, pe bai holl ffyrdd 30 mya presennol Cymru yn dod yn rhai 20 mya, y byddai hynny'n achub chwech i 10 o fywydau ac yn arbed rhwng 1,200 a 2,000 o anafiadau bob blwyddyn, a gwerth hynny o ran atal yn £58 miliwn i £84 miliwn.
Mae'r achos dros newid yn seiliedig ar dystiolaeth dda. Mae Fforwm Trafnidiaeth Rhyngwladol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mewn adroddiad diweddar ar gyflymder a'r risg o ddamweiniau yn datgan yn bendant, lle mae cerbydau modur a defnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed yn rhannu'r un gofod, fel mewn ardaloedd preswyl, 20 mya yw'r terfyn cyflymder uchaf a argymhellir. Mae'n amlygu'r hyn a wyddom eisoes: mae cyflymder yn dylanwadu'n uniongyrchol ar amlder a difrifoldeb damweiniau. Wrth yrru'n gyflymach, mae nifer damweiniau a difrifoldeb damweiniau'n cynyddu'n anghymesur. Ar gyflymder is, mae nifer damweiniau a difrifoldeb damweiniau'n lleihau. Bydd 85 y cant o gerddwyr yn goroesi gwrthdaro 30 km/h—hynny yw 18.5 mya—tra bydd 80 y cant o gerddwyr yn marw mewn gwrthdaro 50 km/h, sef 32 mya.