12. Dadl Fer: Gweithredu terfynau cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig yng Nghymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 6:25, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae difrifoldeb gwrthdrawiadau'n dilyn deddfau ffiseg. Ar gyflymder uwch, mae'r egni cinetig sy'n cael ei ryddhau mewn damwain yn cynyddu, fel y gwna'r trawma a brofir gan y rhai a drawyd gan y cerbyd, neu sydd yn y cerbyd. Gellir egluro'r cynnydd yn y risg o ddamwain gan y ffaith bod yr amser i ymateb i newid yn yr amgylchedd pan fo cyflymder yn cynyddu yn fyrrach a cheir llai o allu i drin y cerbyd.

Mae gostwng y terfyn diofyn o 30 mya i 20 mya mewn ardaloedd trefol adeiledig yn lleihau'r perygl o ddamweiniau'n sylweddol. Gallai arbed amser hefyd, helpu i wneud ein haer yn lanach, ac annog ffyrdd o fyw mwy egnïol. Mae pobl yn tybio'n anghywir fod terfynau cyflymder is yn gwneud amseroedd teithio'n hwy, ond yn gyffredinol, mae'r cyflymder cyfartalog mewn dinasoedd ymhell islaw 20 mya, oherwydd tagfeydd a chiwiau. Mae traffig yn llifo'n fwy rhydd ar 20 mya na 30 mya. Mae gyrwyr yn gwneud gwell defnydd o le ar y ffordd drwy barcio'n agosach ac mae cyffyrdd yn gweithio'n fwy effeithlon, ac ar gapasiti uwch, gan ei bod yn haws uno â llif y traffig.

Ar ansawdd aer, mae modelu mathemategol ar draws amrywiaeth o astudiaethau wedi dangos y dylai arwain at welliannau. Dengys ymchwil gan Goleg Imperial Llundain ar gyfyngiadau cyflymder fod cyfraddau allyriadau'n uwch lle y terfir ar lif y traffig. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad y byddai'n anghywir rhagdybio y byddai 20 mya yn niweidiol i ansawdd aer yr amgylchedd yn lleol, gan fod yr effeithiau ar allyriadau cerbydau'n gymysg.

Mae terfynau cyflymder is yn lleihau tagfeydd drwy gynyddu cyfraddau llif a llyfnhau traffig drwy amgylcheddau trefol lle byddai ceir yn stopio ac yn ailddechrau fel arfer. Mae NICE, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, yn argymell gostwng y cyflymder trefol i gael llai o lygredd. Dywed eu canllawiau fod terfynau 20 mya heb fesurau ffisegol mewn ardaloedd trefol yn helpu i osgoi cyflymu ac arafu diangen. Mae gyrru mwy esmwyth gyda llai o frecio a chyflymu gwastraffus wedi torri 12 y cant oddi ar y defnydd o danwydd yn yr Almaen ar ôl gweithredu terfynau 30 km/h. Mae ansawdd aer yn gwella hefyd, gan fod traffig sy'n symud yn allyrru llai o lygredd na phan fo cerbyd yn sefyll yn llonydd gyda'r injan yn rhedeg. Mae argymhellion y Coleg Imperial yn cynnwys gostwng terfynau cyflymder ar ffyrdd trefol a chymell pobl i feicio.

Lywydd, byddai cyflwyno'r polisi hwn o fudd i iechyd cyhoeddus hefyd mewn nifer o ffyrdd yn unol â Deddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant. Mewn ardaloedd adeiledig, byddai mwy o bobl yn teimlo'n gyfforddus i gerdded a beicio'n ddiogel, a byddai'r amgylchedd yn fwy dymunol i gymunedau, gan annog rhyngweithio cymunedol a chwarae awyr agored i blant.

Mae Sustrans Cymru yn nodi tystiolaeth y bydd newid i gyflymder arafach yn arwain at gymunedau mwy diogel ac iachach gyda lefelau uwch o gerdded a beicio. Yn 2013, cynhaliodd yr elusen arolwg o drigolion yng Nghymru, gyda chwech o bob 10 yn cefnogi terfynau 20 mya fel y cyflymder diofyn ar gyfer lle maent yn byw. Fel Gweinidog Llywodraeth Cymru, roeddwn yn falch o fwrw ymlaen â Deddf Teithio Llesol (Cymru), a basiwyd yn 2013. Mae'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i archwilio llwybrau presennol ar gyfer cerdded a beicio cyn cynllunio a darparu rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau i'r gwaith, i ysgolion ac i gyfleusterau lleol. Bydd terfynau 20 mya yn hwyluso hyn.

Dros yr ychydig genedlaethau diwethaf, yn anffodus bu gostyngiad dramatig yn y rhyddid a roddir i blant fynd allan heb oruchwyliaeth oedolion. Dengys astudiaeth gymharol gan y Sefydliad Astudiaethau Polisi dros 40 mlynedd fod 86 y cant o blant oedran ysgol gynradd yn cael teithio adref o'r ysgol ar eu pen eu hunain yn 1971. Erbyn 2010, 25 y cant yn unig oedd y ganran. Mae traffig yn ffactor mawr yn y newid hwn ac yn un o'r rhwystrau mwyaf i ryddid plant i chwarae y tu allan. Mae ein strydoedd preswyl wedi dod yn amgylcheddau peryglus i blant a phobl ifanc, ac mae chwarae anffurfiol ar y stryd wedi'i ddisodli gan y car i raddau helaeth.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n ymgorffori'r hawl i chwarae, yn datgan y dylid rhoi ystyriaeth i greu amgylcheddau trefol a gwledig sy'n addas ar gyfer plant drwy fesurau traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys terfynau cyflymder. Ac mae Chwarae Cymru wedi darparu gwybodaeth bwysig am rôl bosibl terfynau cyflymder 20 mya yn gwella gallu plant i chwarae—gweithgaredd sy'n ganolog i'w hiechyd a'u lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol. Argymhellir y polisi hefyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru, sy'n nodi y gallai gael effaith eang a chadarnhaol tu hwnt.

Lywydd, mae taer angen datblygu ymyriadau cadarn a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar yr heriau sy'n wynebu iechyd y cyhoedd heddiw, ar lygredd aer, ar ordewdra ac ar anafiadau traffig ar y ffyrdd, ac mae cydberthynas rhwng y rhain i gyd. Gall terfyn cyflymder diofyn o 20 mya chwarae rhan bwysig yn hyn ac rwy'n credu bod angen cysondeb cenedlaethol gyda disgresiwn lleol i gyflawni'r newid angenrheidiol. Mae a wnelo'r materion hyn lawn cymaint â chonsensws cyhoeddus ag â rheoli traffig. Os ydym am i ystyriaeth o amwynder a diogelwch trigolion cymunedau fod yn norm cenedlaethol, yna ar ryw adeg, mae angen inni gael trafodaeth genedlaethol. Mae angen inni roi cymunedau yn gyntaf ac ailddiffinio'r gofod rhwng ein cartrefi. Rwy'n cefnogi'r newid hwn yn frwd a chredaf y bydd yn caniatáu inni adennill ein ffyrdd a chreu strydoedd cymunedol—strydoedd cymunedol sy'n dod yn lleoedd gwell i fod ynddynt.

Felly, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â Rod King, sylfaenydd 20's Plenty for Us, sefydliad sy'n ymgyrchu dros y newid hwn, a hoffwn yn fawr ddiolch iddo am ei arbenigedd a'i gyngor. Pan fydd y Cynulliad yn ailddechrau yn nhymor yr hydref, byddaf yn cynnal digwyddiad bwrdd crwn ar 3 Hydref i drafod y pwnc hwn ymhellach. Rwy'n falch iawn fod Rod King yn mynd i fod yno, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, academyddion, Jeff Cuthbert, Sustrans Cymru a Llywodraeth Cymru.

Lywydd, mae hwn yn bolisi a fydd yn sicrhau manteision pwysig a sylweddol i'n cymunedau. Rwy'n gobeithio y gallwn barhau i adeiladu a chryfhau ein hymgyrch a bod Llywodraeth Cymru yn gwneud 20 mya yn ddigon yng Nghymru.