Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, ac rwy'n cydnabod y nifer o ymyriadau sy'n digwydd bellach mewn perthynas â cham-drin domestig. Ond rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod llochesi yn elfen allweddol er mwyn symud dioddefwyr o sefyllfaoedd lle y cânt eu cam-drin. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau bod llochesi yng Nghymru yn aros ar agor? Ac os bydd arian yn cael ei sianelu drwy awdurdodau lleol yn y dyfodol, pa fesurau sydd ar waith i leihau'r gyfran o'r arian sy'n mynd tuag at gostau gweinyddol?