Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Yn sicr, yn union fel y dywedais, mae yna bellach gyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i gynhyrchu cynlluniau rhanbarthol, ac mae'r cynllun rhanbarthol yn asesiad o anghenion, ac felly mae'n rhaid iddynt ymateb wedyn i'r asesiad o anghenion, sy'n asesu anghenion eu hardal, ac mae'r arian yn dilyn. Felly, mae'n fwy na'n bod yn rhoi arian iddynt ac yna'n gofyn iddynt ei ddyrannu fel y mynnant; mae'n rhaid iddynt gynhyrchu'r cynllun rhanbarthol, sy'n dweud wrthym beth yw'r angen yn yr ardal, ac yna byddwn yn edrych i weld bod yr arian yn cael ei wario yn y ffordd honno mewn gwirionedd. Fel rhan o'r grant mawr newydd, sef yr hyn roedd David Rowlands yn cyfeirio ato, credaf ei bod yn deg dweud fod set swmpus o ganllawiau i fynd ochr yn ochr â hwnnw ynglŷn â'r hyn rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol ei wneud.