Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr, Paul Davies, am godi'r materion pwysig a chymhleth hyn ynglŷn â phobl ar y sbectrwm awtistig. Fodd bynnag, nid wyf yn argyhoeddedig mai Bil yw'r ymateb priodol. Nid mater pleidiol yw hwn, ac rydym yn mynd i gael pleidlais rydd, felly—. Nid wyf yn credu y dylai fod yn fater pleidiol mewn unrhyw amgylchiadau. Er enghraifft, yr enghraifft a roddwyd gan Caroline o fenyw ifanc y gwrthodwyd mynediad iddi i'r prom—nid yw hynny'n ymddangos i mi fel rheswm dros fod angen Deddf awtistiaeth; mae angen adolygiad cyflym iawn o bolisïau lles yr ysgol benodol honno. Nid wyf yn gwadu o gwbl fod pobl ar y sbectrwm awtistig neu eu teuluoedd yn wynebu problemau heriol iawn i gael y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ond nid wyf yn siŵr mai Bil awtistiaeth yw'r ffordd ymlaen.
Rwy'n cadw mewn cof fod y ddogfen 'Cymru Iachach', sef ymateb y Llywodraeth i'r adolygiad Seneddol o'r GIG, yn cynnwys pwyslais ar sicrhau bod gennym dîm o amgylch y claf, fod gennym wasanaethau ymatebol, fod gennym ofal sy'n canolbwyntio ar y claf, ond yn ogystal â hynny, rydym mewn perygl o drin yn feddygol rhywbeth y credaf y dylai fod yn llawer mwy o fodel cymdeithasol mewn ymateb i hyn. Mae angen i'n holl ysgolion a'n holl fusnesau fod yn ystyriol o awtistiaeth yn yr un ffordd ag y byddem yn hoffi iddynt fod yn ystyriol o ddementia. Felly, mae gennyf gryn bryderon ynglŷn â gwthio am Fil ar gyfer un cyflwr, pan fo perygl o ddosbarthu cyflyrau i seilos, oherwydd gallai pobl ar y sbectrwm awtistig, ar y naill law, fod yn ffisegwyr niwclear; ar y llaw arall, gallai fod ganddynt gyflyrau eraill sy'n eu gwneud yn anabl ac yn eu herio. Ac efallai nad yr awtistiaeth yw'r brif broblem y maent angen cymorth gyda hi.
Rwy'n llwyr ddeall bod cryn le i wella'r ffordd rydym yn diwallu anghenion plant ac oedolion sydd ar y sbectrwm awtistig, ond nid wyf yn teimlo ein bod o reidrwydd wedi rhoi digon o amser i'r cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau sbectrwm awtistig a'r cynllun cyflawni, a lansiwyd ym mis Tachwedd 2016, i allu dweud o ddifrif mai dyma'r ffordd gywir.
Nid oes unrhyw driniaeth glir ar gyfer y cyflwr hwn. Yn amlwg, mae'n dibynnu llawer iawn ar y problemau penodol; nid oes a wnelo hyn â sicrhau bod cydymffurfio'n digwydd â chanllawiau clinigol. Mae arnom angen gwasanaethau priodol i gefnogi'r heriau a wynebir gan unigolion arbennig. Yn amlwg mae angen inni sicrhau bod y rhai sydd â fwyaf o gysylltiad gydag unigolion, yn enwedig ysgolion, yn ymateb yn briodol, ond mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw oddefgarwch tuag at ysgolion sy'n gwthio disgyblion oddi ar eu rhestri oherwydd eu bod yn credu y gallent effeithio ar berfformiad arholiadau'r ysgol. Mae angen ysgolion cwbl integredig a chynhwysol, a buaswn yn falch o sefyll ar y llinell biced i herio unrhyw beth felly sy'n digwydd.
Rwy'n dal i fethu deall a fu cynnydd mewn awtistiaeth neu a yw diagnosis yn well. Hoffwn glywed barn Paul Davies ynglŷn â hynny. Yn amlwg, pe bai patrwm o achos ac effaith y gallem ei ganfod drwy gasglu gwybodaeth drwy'r gofrestr y mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ei chael ar gyfer plant, ac y gallem eu gorfodi i'w chael ar gyfer oedolion hefyd—pe bai patrwm ynghlwm wrth y diagnosis o awtistiaeth a phe bai'n cael ei gysylltu â materion amgylcheddol, yn amlwg byddai dyletswydd arnom i weithredu ar hynny. Felly, credaf fod gwybodaeth yn eithriadol o bwysig, ond mae gennyf bryderon ynglŷn â gosod hyn mewn Bil caeth pan fo gennym eisoes lawer o rwymedigaethau mewn perthynas â'r ffyrdd y mae angen i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ymateb, a theimlaf nad ydym wedi rhoi digon o amser i sicrhau bod y rheini'n cael eu cyflawni a'u cyflwyno'n briodol.