Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 18 Medi 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Y tro diwethaf y soniodd Llywodraeth Cymru wrth y Cynulliad am faterion yn ymwneud ag ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd oedd ar ddiwedd tymor yr haf. Diben datganiad heddiw yw rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y llu o ddatblygiadau sydd wedi digwydd yn y cyfamser.
Y mater cyntaf yr ymdriniaf ag ef y prynhawn yma yw natur y fargen wahanu a'r berthynas y mae Llywodraeth y DU yn gobeithio ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, fel y nodir ym Mhapur Gwyn Chequers. Ni fu unrhyw newid ar ein dyheadau ni ers cyhoeddi 'Diogelu Dyfodol Cymru' gyda Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017. Gyda Phapur Gwyn Chequers daeth safbwynt Llywodraeth y DU yn raddol fwy cydnaws â'n un ni, gan ein galluogi i roi croeso llugoer i rai o'i argymhellion.
Mae Chequers yn arddel yr egwyddor o gael undeb tollau; mae'n gwneud ymrwymiad i gael aliniad rheoleiddiol parhaus ar gyfer nwyddau a chynnyrch amaethyddol. Mae natur economi Cymru, fel yr ydym ni wedi dweud lawer gwaith, yn golygu bod masnach ddi-rwystr ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu a'r economi wledig yn arbennig o bwysig. Mae cynigion Chequers yn welliant yn hynny o beth, fel y mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ill dau wedi cydnabod.
Fodd bynnag, Llywydd, nid yw Chequers yn ateb llu o gwestiynau ymarferol a gwleidyddol sylweddol. O ran polisi, mae'n methu â datrys o leiaf tri mater sylfaenol. Er ei fod yn cytuno mai'r amcan terfynol yw cael rhyw lun ar undeb tollau rhwng y DU a'r UE, mae'n methu â nodi'r modd y gellir cyflawni hyn. Mae cynigion ymarferol y Llywodraeth ei hun yn ddryslyd, yn pentyru costau ychwanegol ar fusnesau, yn dibynnu ar dechnoleg sydd heb ei phrofi ac yn uniongyrchol annerbyniol i 27 aelod yr UE.
Fel y dywedodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yr wythnos diwethaf, mae'r ateb polisi yn syml. Gadewch i Lywodraeth y DU ddweud yn blaen: 'Rydym ni eisoes mewn undeb tollau; gadewch inni aros yn rhan ohoni.' Ac yn hytrach nag esgus y gallwn ni gael polisi masnachu mentrus gan aros yn yr undeb tollau, gadewch inni ymrwymo i gadw ein polisi masnach yn gydnaws ag un yr Undeb Ewropeaidd er mwyn cael y manteision ehangach a ddaw yn sgil hynny.
Yr ail broblem ymarferol gyda Chequers yw'r ymgais i wahanu cysoni rheoleiddiol rhwng nwyddau, sydd i'w cysoni, a gwasanaethau, sydd ddim i'w cysoni. Mae'r gwahaniaeth hwnnw, wrth gwrs, yn mynd yn gwbl groes i'r pedwar rhyddid, y mae'r UE yn eu hystyried yn anwahanadwy. Ond ni fydd y gwahaniaeth hwn yn gweithio yn y byd go iawn. Mae pobl sy'n prynu nwyddau hefyd yn prynu gwasanaethau ochr yn ochr â nhw. Rydych chi'n prynu car a phecyn cyllid i'w ariannu. Mae pobl sy'n gwerthu nwyddau yn gwerthu gwasanaethau gyda nhw hefyd. Yn y sector awyrofod, mae gwasanaethu'r peiriant—contract gwasanaeth—yn rhan annatod o'r pecyn gwerthiant ac o fwy o werth na gwerthu'r peiriant ei hun.