Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 18 Medi 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad. Ond, er gwaethaf y bwrlwm o weithgarwch ymddangosiadol dros yr haf ynghylch ein hymwahaniad oddi wrth yr UE, nid ydym yn agosach at gael atebion i gwestiynau sylfaenol—cwestiynau mor sylfaenol fel eu bod yn amrywio o ddyfodol cytuniad heddwch rhyngwladol i ddiogelwch bwyd. Yr hyn sy'n dod yn glir iawn, fodd bynnag, yw ein bod yn cael ein dal yn wystl gan griw o ymwahanwyr ideolegol yn San Steffan.
O ran y manylion yn ei ddatganiad heddiw, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro ambell bwynt— yn benodol y sylwadau a wnaeth am yr undeb tollau neu undeb tollau? Mae wedi dweud yn ei ddatganiad y dylem ni aros yn—. Wel, rwy'n credu ei fod yn dweud y dylem ni aros yn yr undeb tollau. Mae'r testun sydd gennyf o'm blaen yn dweud y dylem ni aros mewn undeb tollau. A all egluro a yw'n dymuno aros yn yr undeb tollau neu a yw eisiau negodi undeb tollau newydd?
Mae hynny'n gysylltiedig â'r ail gwestiwn, sydd ynglŷn â'r sylw a wnaeth am yr angen am etholiad cyffredinol yn y DU os na all Prif Weinidog y DU gael Senedd San Steffan i gytuno ar fargen ymwahanu. Yn ôl pob tebyg, byddai Ysgrifennydd y Cabinet eisiau i ganlyniad yr etholiad cyffredinol hwnnw arwain at Lywodraeth Lafur fwyafrifol, ond, os nai hynny fydd y canlyniad, yna byddwn ni'n bendant yn gadael yr undeb tollau a byddwn ni'n bendant yn gadael y farchnad sengl. Felly, tybed a all egluro pam ei bod hi'n dactegol er budd pobl Cymru, a hyd yn oed Lywodraeth Cymru, i gael Llywodraeth Lafur fwyafrifol fydd yn ein tynnu allan o'r undeb tollau a'r farchnad sengl. Sut y gall ef gysoni'r safbwyntiau ymddangosiadol anghyson hynny?
Y pwynt arall yr hoffwn ei godi yw'r cwestiwn—ac mae hyn yn rhywbeth sy'n dod i benllanw, rwy'n credu; bydd, yn sicr, yn gwneud hynny yn yr wythnosau nesaf—o'r ffin yn yr Iwerddon. O ystyried yr amhosibilrwydd—. Er gwaethaf sylwadau llefarydd grŵp y Ceidwadwyr heddiw, o ystyried ei bod yn amhosib cael ffin agored ar ynys Iwerddon fel yn awr os yw un rhan o'r Iwerddon y tu allan i'r undeb tollau, onid yw hi'n fwy tebygol y gwelwn ni felly ffin galed ym Môr Iwerddon, ac os felly, pa gamau lliniaru —? Wel, rwy'n dweud 'lliniaru'; nid oes camau lliniaru'n bodoli. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i osgoi'r canlyniad hwnnw, bod Gogledd Iwerddon —? Y sefyllfa wrth gefn yw y bydd Gogledd Iwerddon yn aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau er mwyn cynnal cytundeb Belfast, ac mae hynny'n golygu ffin galed ym Môr Iwerddon, a fyddai'n drychineb i gymunedau yng Nghymru.
Mae'r cwestiynau eraill yr hoffwn i eu gofyn yn ymwneud â chynllunio wrth gefn ar ran Llywodraeth Cymru. Rwyf i, wrth gwrs, yn croesawu porth busnes Brexit—a oedd yn bolisi Plaid Cymru, wrth gwrs, ac yn awgrym a wnaed yn fuan iawn ar ôl y refferendwm. Yn wir, mae'n drueni mawr na ellid fod wedi cyflwyno'r porth busnes Brexit ynghynt, ond tybed—. Rwy'n gwybod y bydd yn cyhoeddi ac yn lansio hyn yn ffurfiol yn fuan, ond a all ddweud wrthym ni pryd y bydd ef yn lansio'r porth busnes Brexit a sut y gall busnesau fod yn rhan ohono? Rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol iawn hefyd i ni, aelodau'r Cynulliad hwn, pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gyhoeddi, efallai yn Llyfrgell y Cynulliad, restr gynhwysfawr o gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â nhw. Dywedodd yn ei ddatganiad eu bod wedi eu gwella yn ystod y cyfnod yr haf. Rwy'n credu y byddai rhestr yn beth da, efallai rhywbeth tebyg i ddull Llywodraeth y DU o gyhoeddi ei phapurau achos 'dim bargen'. Fe allem ni gael system debyg yng Nghymru, lle mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi gwybodaeth fanylach ar gynllunio wrth gefn, nid yn unig ar gyfer sefyllfa o ddim bargen, ond ar gyfer bargen bosib hefyd.
Un agwedd sydd ar goll o'r datganiad heddiw, yn fy marn i, yw'r cwestiwn o gynllunio wrth gefn yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru. Rwyf wedi sôn am hyn ar ddau achlysur oherwydd, wrth gwrs, mae hon yn sefyllfa gymhleth iawn, ac wrth gwrs, nid yw rheolaeth dros gyffuriau wedi'i ddatganoli, ond, wrth gwrs, ni ellir rhedeg gwasanaeth iechyd gwladol sydd wedi'i ddatganoli heb gyffuriau a heb driniaethau. Rwy'n datgan buddiant fel rhywun sydd ar hyn o bryd yn elwa o driniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. A'r driniaeth a gefais yn bersonol drwy gemotherapi—caf ar ddeall bod y cyffuriau hynny ar hyn o bryd yn dod drwy Munich, yn cael eu dosbarthu ar draws yr Undeb Ewropeaidd drwy Munich, ac yn deillio o bedwar ban byd. Nawr, mae hynny'n—. Ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn annog pobl i'w ystyried o ddifrif. Pan fo pobl yn chwarae gyda'r syniad o ddim bargen, o Brexit 'ddim bargen', mae hynny'n golygu dim bargen o ran cyffuriau canser y mae pobl yn y wlad hon yn dibynnu arnynt. Nid chwarae gemau gwleidyddol neu bêl-droed wleidyddol mo hyn—mae hynny'n fater difrifol. Os nad oes gennym ni gytundeb ar ddyfodol y cyffuriau canser sy'n ffurfio'r cyfansoddiad cemotherapi, mae cleifion canser yn y wlad hon yn mynd i ddioddef, ac nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i'n credu bod unrhyw un yn y Siambr hon yn dymuno ei weld. Felly, a gaf i ofyn i Lywodraeth Cymru pa drafodaethau sy'n mynd rhagddynt gan Lywodraeth y DU, sydd â rheolaeth dros reoli cyffuriau, gyda Llywodraeth Cymru, sydd, wrth gwrs, yn gyfrifol am y GIG yng Nghymru ac am gyffuriau a thriniaethau'r dyfodol?
Yn olaf, byddai rhywbeth o'i le oni fyddai llefarydd Plaid Cymru yn codi materion cyfansoddiadol, yn enwedig pan mae cyfle i wneud hynny ynglŷn â'r mater o wahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Sylwaf, yn ei gyfeiriadau at gyfarfodydd Cydbwyllgor y Gweinidogion a'r Fforwm Gweinidogol, ei bod hi'n dal i fod yn wir—a gwelsom hyn ddoe mewn tystiolaeth a roddwyd gan Brif Weinidog Cymru i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol—rwy'n credu, y caiff Cymru ei thrin yn fwy tebyg i bartner ymgynghorol na chenedl bartner yn y Deyrnas Unedig honedig. Rydym ni wedi gweld yn yr holl broses hon fod diffyg cyfansoddiadol yn y Deyrnas Unedig. Mae rhai ohonom ni'n credu ei bod wedi bod yn ddiffygiol gyfansoddiadol ers 1707, ond mae'r broses hon yn sicr wedi amlygu hynny. Gyda datblygiadau mewn rhannau eraill o'r DU—y posibilrwydd o Iwerddon Unedig, y posibilrwydd o gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban—pa gynllunio wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd ar gyfer y posibilrwydd gwirioneddol, rwy'n awgrymu, na fydd Teyrnas Unedig o gwbl ar ddiwedd y broses hon?