Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 18 Medi 2018.
Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn am ffin Iwerddon. Dywedodd Prif Weinidog y DU ei hun y byddai y tu hwnt i amgyffred unrhyw Brif Weinidog i gytuno i ffin galed ym Môr Iwerddon, a dyna un o'r pethau y mae angen iddi ei gyflawni wrth geisio datrys cwestiwn ffin Iwerddon. Ac o safbwynt Cymru, er ein bod yn dweud bob amser—ac fe ddywedaf hyn eto y prynhawn yma —na fyddwn ni byth yn gwneud nac yn dweud unrhyw beth yr ydym ni'n gwybod a fydd yn creu unrhyw anawsterau o ran y cynnydd pwysig iawn a wnaed yn yr Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diweddar. Ond o safbwynt Cymru, mae gennym ni, serch hynny, yr hawl i gyfeirio at yr anawsterau ychwanegol y byddem ni yn eu hwynebu pe bai ffin ym Môr Iwerddon, oherwydd porthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro ac ati, ac rydym ni'n sôn am hynny wrth Lywodraeth y DU pryd bynnag y bydd cyfle i wneud hynny.
Soniodd yr Aelod am y porth Brexit ac roedd hynny, yn wir, yn rhan o'r cytundeb cyllideb dwy flynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae is-grŵp o Gyngor Datblygu'r Economi wedi bod yn gweithio ar hynny oherwydd roeddem ni'n awyddus iawn y byddai'r porth yn cynnig i fusnesau y pethau y mae busnesau eu hunain yn dweud wrthym ni sydd eu hangen arnynt o ran gwybodaeth a chyngor. A bydd y porth yn wir yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael inni ac yn rhoi cyngor ar amrywiaeth o bynciau busnes perthnasol. Bu'n anodd cytuno ar gynnwys y porth oherwydd yr ansicrwydd sylweddol ynghylch ffurf derfynol Brexit a goblygiadau hynny i Gymru, ond rydym ni'n gobeithio gallu ei gyhoeddi yn fuan. Meddyliaf am yr hyn a ddywedodd yr Aelod am ei roi yn y llyfrgell—y cyngor atodol a ddarparwyd gennym ni yn ychwanegol at yr hysbysiadau technegol pan fo materion penodol yn ymwneud â Chymru yn y fantol.
Wrth gwrs, fe wnaeth gyfres o sylwadau pwysig iawn ynghylch beth fyddai 'dim bargen' yn ei olygu, nid yn unig mewn ystyr damcaniaethol, ond yng nghyswllt y gwasanaethau beunyddiol absoliwt y mae pobl yng Nghymru yn dibynnu arnynt. Gallaf ei sicrhau bod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, yn trafod y materion hyn yn rheolaidd iawn, iawn gyda'r cynghorwyr sydd ganddo yn y maes fferyllol, gyda'r byrddau iechyd lleol sy'n darparu gwasanaethau ar lawr gwlad ac â Chydffederasiwn y GIG yng Nghymru o ran materion staffio, ac mae gennym ni ddiddordeb brwd, uniongyrchol a manwl iawn yn y ffordd y gallai Brexit effeithio ar y GIG yng Nghymru.
Yn fyr, o ran materion cyfansoddiadol, yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud, Llywydd, yw symud ymlaen o'r syniad mai ffafr neu ewyllys da yw datganoli, sydd yn rhy aml yn nodweddu agwedd Gweinidogion yn Llywodraeth y DU, lle'r ymddengys eu bod yn ystyried datganoli yn rhywbeth y maen nhw wedi bod yn ddigon hael i'w roi i bobl yng Nghymru ac yn yr Alban, ac y gallent ei hawlio'n ôl ar unrhyw adeg pan ymddengys nad ydyn nhw'n hoffi'r hyn a wnawn ni gyda'r cyfrifoldebau sydd gennym. Ar ôl Brexit, mae'n rhaid inni gael dull llawer mwy ffurfiol, llawer mwy dibynadwy a llawer mwy diduedd o ryngweithio rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig. Wrth gwrs, nid wyf yn cytuno â'r Aelod ynghylch ei sylwadau am chwalu'r Deyrnas Unedig—rydym ni'n credu mai'r ffordd orau i sicrhau dyfodol llwyddiannus i Gymru yw drwy sicrhau dyfodol llwyddiannus i'r Deyrnas Unedig. Ond welwn ni mo'r dyfodol llwyddiannus hwnnw oni allwn ni, ar ôl Brexit, ymwneud â rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n seiliedig ar gydraddoldeb cyfranogiad a pharch cydradd.