Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 18 Medi 2018.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n nodi'r hyn sydd yn eich datganiad, ond mae'n rhaid imi ddweud ei fod braidd yn brin o fanylion. Felly, o ganlyniad, mae gennyf nifer o gwestiynau ichi. Er enghraifft, rydych yn honni eich bod yn gwneud cynnydd wrth gyflawni adolygiad sylfaenol o'r fformwla ariannu ar gyfer addysg bellach—credaf fod hynny'n syniad da, ardderchog—ond nid ydych chi wedi dweud unrhyw beth am sylwedd y cynnydd hwnnw. Felly, a wnewch chi roi rhywfaint o fanylion am y cynnydd gwirioneddol yr ydych wedi ei wneud, pa mor bell yr ydych wedi mynd, canlyniadau hynny, pa newidiadau a wnaethoch, pa newidiadau yr ydych yn eu hystyried?
Nodaf hefyd eich bod wedi cyhoeddi lansiad cronfa £10 miliwn i hybu darpariaeth sgiliau rhanbarthol ac anelu at fylchau mewn sgiliau. Mae hybu sgiliau a nodi'r bylchau yn bethau angenrheidiol a hanfodol i Lywodraeth eu gwneud, felly, unwaith eto, syniadau da yn hyn o beth. Ond, beth yw eich asesiad o'r bylchau mewn sgiliau yn y rhanbarthau amrywiol, a sut y daethoch chi i'r casgliadau hyn? Sut ydych chi'n asesu anghenion sgiliau yn y rhanbarthau? Pa ddull yr ydych chi'n ei ddefnyddio? Beth yw eich asesiad o anghenion buddsoddwyr busnes yn y dyfodol o ran sgiliau yn y gwahanol ranbarthau yn y dyfodol?
Gan droi at y rhaglen prentisiaethau, faint o brentisiaethau sydd wedi eu creu yn gyfnewid am yr arian a wariwyd hyd yn hyn? Beth yw eich asesiad o'r rhagolygon hirdymor ar gyfer prentisiaid sydd yn mynd drwy'r cynllun, a sut fyddwch yn mesur canlyniadau'r cynllun mewn gwirionedd? O ran y gefnogaeth i'r lleoliadau i unigolion, a wnewch chi ddweud wrthym pryd fyddwch yn gallu adrodd yn ôl ar ganlyniadau'r arbrawf? Unwaith eto, sut fyddwch yn mesur llwyddiant? Rydych yn dweud ein bod eisoes wedi gweld manteision cydleoli. Mae'n ddigon hawdd dweud ein bod eisoes wedi gweld y manteision, ond a wnewch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, beth yw'r manteision yr ydych wedi eu gweld hyd yn hyn? Rwy'n nodi hefyd eich bod chi'n ymdrechu i gynyddu nifer y bobl anabl sy'n cael eu cyflogi. Rwy'n cymeradwyo eich amcanion yn hyn o beth yn fawr iawn. Mae angen cymeradwyo unrhyw beth sy'n cael ei wneud i gyflogi pobl anabl a'u cael i fod yn annibynnol, ond a wnewch chi roi rhywfaint o wybodaeth am nifer y bobl anabl sy'n debygol o gael cymorth yn sgil y cynllun hwn? Faint ohonyn nhw sy'n debygol o gael eu helpu i mewn i gyflogaeth?
Rydych chi'n datgan bod eich cynllun cyflogadwyedd yn egluro i gyflogwyr beth yw eu cyfrifoldebau i feithrin, hyfforddi a chynnal eu gweithwyr ac i sicrhau dyfodol y gweithlu yng Nghymru. Ond mae gennyf i gwestiwn i chi, Gweinidog. A wnewch chi egluro inni beth sy'n gwneud ichi feddwl eich bod yn gymwys i bregethu wrth gyflogwyr am hyfforddi eu staff? A ydych yn ceisio dod o hyd i ffordd o osgoi'r cyfrifoldeb am asesu anghenion hyfforddiant a darparu'r addysg ar gyfer yr anghenion hynny, gan roi'r cyfrifoldeb hwnnw ar gyflogwyr? Mae rhoi hyfforddiant i gyflogeion hefyd yn costio arian, nid yn unig mae angen talu am yr hyfforddiant, ond mae'r gost o ran yr amser a gymerir i gael yr hyfforddiant. A ydych yn disgwyl i'r cyflogwyr ysgwyddo'r gost hon, neu'r wladwriaeth?
Fy mhrif gwestiwn yw hwn, ac mae'n debyg y byddwch wedi casglu hyn o fy sylwadau blaenorol: sut yr ydych yn bwriadu asesu canlyniadau'r cynllun cyflogadwyedd? Pa fath o berfformiad y byddwch yn ei ystyried yn llwyddiant? Sut fyddwch yn monitro'r defnydd o'r cynllun, ond hefyd ganlyniadau hirdymor y cynllun? Diolch.