– Senedd Cymru am 3:56 pm ar 18 Medi 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar adroddiad cynnydd ar y cynllun cyflogadwyedd, ac rydw i'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ym mis Mawrth eleni, fe wnaethom ni gyhoeddi cynllun cyflogadwyedd traws-lywodraethol a oedd yn nodi ein gweledigaeth o wneud Cymru yn economi cyflogaeth lawn, uwch-dechnoleg, â chyflogau uchel. Cyflwynodd y cynllun hwnnw strategaeth uchelgeisiol i greu gweithlu hyfforddedig a chynhwysol iawn, yn un a all ymateb yn effeithiol i anghenion sgiliau cenedlaethol a rhanbarthol, ac sy'n addasu'n dda ar gyfer gwaith yn y dyfodol.
Wrth wraidd yr uchelgais hon, rydym wedi ymrwymo i helpu pawb i gyflawni eu potensial yn llawn drwy gyflogaeth ystyrlon, beth bynnag eu gallu, cefndir, rhyw neu ethnigrwydd. Gwnaeth y cynllun hi'n glir hefyd i gyflogwyr fod ganddyn nhw gyfrifoldeb i feithrin, hyfforddi a chynnal eu gweithwyr i sicrhau bod dyfodol y gweithlu yng Nghymru yn un sefydlog a chydnerth. Mewn cysylltiad agos â'r cynllun gweithredu economaidd hwnnw, rydym wedi sicrhau, gyda'n gilydd, ein bod yn ysgogi twf cynhwysol, ein bod yn gwella cynhyrchiant a'n bod yn dechrau paratoi i ddiogelu ein heconomi yn erbyn yr heriau hynny yn y dyfodol.
Roedd rhaglen eang o gamau gweithredu ac ymrwymiadau yn cael eu nodi gennym yn y cynllun cyflogadwyedd, yn ogystal â thargedau 10 mlynedd eang, er mwyn cyflawni'r weledigaeth honno dros Gymru. Chwe mis wedi hynny—a dim ond chwe mis a fu—rwy'n falch o gyhoeddi ein hadroddiad cyntaf ar gynnydd o ran cyflawni ein cynllun cyflogadwyedd. Mae'r adroddiad yn nodi'r uchafbwyntiau dros y chwe mis diwethaf, sy'n arddangos ein cyflawniadau allweddol hyd yn hyn, yn ogystal â rhoi rhagflas o'r gwaith sy'n mynd rhagddo a datblygiadau sydd eto i ddod.
Un o'r pethau yr ydym wedi eu gwneud yw lansio cronfa £10 miliwn newydd i ddatblygu sgiliau a fydd yn hybu'r ddarpariaeth ranbarthol o sgiliau ac yn anelu at y bylchau sgiliau. Rydym wedi gwahodd ceisiadau o bob cwr o Gymru, a bydd y rhai a fu'n llwyddiannus yn dechrau'r ddarpariaeth y mis hwn ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.
Rydym yn gwneud cynnydd hefyd ar gwblhau adolygiad radical o'r fformiwla ariannu bresennol ar gyfer addysg bellach. Byddwn yn ceisio gweithredu'r newidiadau yn y flwyddyn academaidd 2019-20 i wneud y system yn fwy effeithlon ac, unwaith eto, yn fwy hyblyg ar gyfer anghenion sgiliau'r rhanbarthau.
Mae ein rhaglen prentisiaethau yn dal i fynd o nerth i nerth, yn darparu cyfleoedd o ansawdd uchel erbyn hyn mewn sectorau newydd, gan gynnwys therapïau clinigol a gwyddorau gofal iechyd. Erbyn diwedd y flwyddyn hon, rydym yn bwriadu treialu cynllun prentisiaeth newydd o fewn y sector coedwigaeth a fydd yn helpu i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau a recriwtio yn y dyfodol ar gyfer diwydiant coed wedi'i adfywio.
Mae gennym fenter gwerth £2 miliwn i dreialu dull o roi cymorth lleoliad wedi'i deilwra i'r unigolyn, ac mae hynny wedi dechrau eisoes. Bydd yn cefnogi 450 o unigolion sydd yn dioddef oherwydd materion iechyd meddwl ysgafn a chymedrol, gan eu helpu i fanteisio ar gymorth gydag iechyd meddwl a chyflogadwyedd mewn ffordd gydgysylltiedig. Felly, mae hynny'n gweithio gydag uned gwaith ac iechyd Llywodraeth y DU a'r Ganolfan Byd Gwaith, ac mae'r arbrawf hwn yn cynnig cyfle arloesol i integreiddio gwasanaethau gofal iechyd a chyflogadwyedd.
Wrth hanfod ein dull newydd o weithredu cymorth cyflogadwyedd sydd wedi'i deilwra i unigolion, rydym yn gwneud cynnydd ardderchog yn datblygu dull mwy syml o gael gafael ar gyngor a chymorth, ac rydym yn gwneud hynny drwy borth y cyngor cyflogaeth, a gaiff ei lansio ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Caiff hynny ei gyflawni gan Gyrfa Cymru. Bydd ein rhaglen newydd o gymorth cyflogadwyedd, Cymru'n Gweithio, yn cael ei chyflwyno drwy'r porth hwnnw ac, unwaith eto, bydd yn barod ar gyfer ei lansio y flwyddyn nesaf. Mae caffael y contractwyr ar gyfer cyflwyno Cymru'n Gweithio yn mynd rhagddo ers amser, a disgwylir y caiff y contractau eu dyfarnu ym mis Tachwedd. Rydym yn parhau i ddatblygu cynigion gyda Gyrfa Cymru o ran ffurf a darpariaeth y porth.
Fel y mae'r adroddiad yn ei ddangos, rŷm ni’n gosod y sylfeini ar gyfer dull gweithredu mwy holistaidd ar draws y Llywodraeth ar gyfer cyflogadwyedd. Rŷm ni'n cydnabod bod angen cysylltu gwahanol wasanaethau cyhoeddus yn well, sy’n cynnwys trafnidiaeth, iechyd, tai, gofal plant a chymorth cyflogadwyedd, a sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn cydweithio fel bod mwy o bobl yn gallu cael gwaith a chadw gwaith. Rŷm ni eisoes yn gweld manteision cyd-leoli yng ngwaith tasglu'r Cymoedd a'n rhaglen Cymunedau dros Waith, ac rŷm ni'n gwneud hyn drwy sefydlu canolfannau cymunedol, a byddwn yn parhau nawr i ddatblygu'r dull gweithredu yma drwy'r porth newydd.
Rŷm ni hefyd yn gwneud cynnydd da wrth weithio gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol i archwilio sut y gallwn ehangu'r opsiynau cludiant er mwyn gwella cyflogadwyedd mewn ardaloedd lleol. Rŷm ni bellach yn datblygu cynlluniau ar gyfer cynllun peilot yn y Cymoedd a fydd yn helpu i leihau rhwystrau i waith oherwydd diffyg opsiynau cludiant hyblyg neu fforddiadwy.
Un o'r prif ymrwymiadau a wnaed yn ein cynllun cyflogadwyedd oedd pennu targed cenedlaethol newydd i gynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith. Mae gwella cyfleoedd cyflogaeth i bobl anabl yn flaenoriaeth, ac mae’n bwysig iawn i’r Llywodraeth yma. Rŷm ni'n benderfynol o ysgogi'r newid mawr sydd ei angen mewn gweithleoedd ac yn y gymdeithas i chwalu'r rhwystrau a'r heriau a wynebir gan bron i 75,000 o bobl anabl yng Nghymru sydd ddim mewn gwaith ond sydd eisiau gweithio.
Rydw i'n hapus â'r cynnydd rŷm ni wedi'i wneud hyd yn hyn wrth weithio mewn partneriaeth agos â phobl anabl a'u cynrychiolwyr nhw, sydd wedi bod yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd orau o gyflawni hyn. Rydw i'n falch hefyd o gydweithrediad nifer o gyflogwyr rydw i wedi cwrdd â nhw yn ein hymdrechion i chwalu'r rhwystrau yma i waith a wynebir ar hyn o bryd gan bobl anabl a'r rheini sydd â chyflyrau sy'n cyfyngu ar eu gallu nhw i weithio.
Rŷm ni'n anelu at gyhoeddi targed erbyn diwedd y flwyddyn a fydd yn ceisio lleihau'r bwlch cyflogaeth mewn perthynas â phobl anabl, ynghyd â rhagor o fanylion am sut rŷm ni'n mynd i gyflawni'r uchelgais yma.
Drwy fy nghyfarfodydd â chwmnïau angori a rhwydweithiau busnes, rydw i'n mynd i barhau i herio cyflogwyr i wneud mwy, ac archwilio sut y gallwn gydweithredu i helpu pob unigolyn â nodweddion gwarchodedig i gael swydd gynaliadwy sy'n rhoi boddhad iddyn nhw.
Nawr, yr hydref yma, byddwn ni hefyd yn cyhoeddi fersiwn newydd o'r fframwaith gweithredu ar gyfer byw'n annibynnol, a fydd yn amlinellu ystod eang o gamau gweithredu sydd ar waith i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau a nodwyd gan bobl anabl ym meysydd trafnidiaeth, tai a chyflogaeth.
Felly, mae'r adroddiad yn dangos ein bod ni wedi cyflawni llawer iawn, rydw i'n meddwl, mewn chwe mis ers cyhoeddi’r cynllun, gan roi dull gweithredu newydd a phellgyrhaeddol ar waith i wella cyflogadwyedd ar draws Cymru.
Fel rhan o strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i Bawb', mae cydweithio effeithiol ar draws y Llywodraeth yn parhau i fod yn rhan ganolog o'r gwaith o gyflawni'r cynllun cyflogadwyedd yma. Rŷm ni'n rhoi sianeli cyfathrebu a chydweithio ar waith ar draws Llywodraeth Cymru a'n partneriaid er mwyn sicrhau ein bod ni'n parhau i weithio gyda'n gilydd yn effeithlon ar sail nodau cyffredin. Rydw i hefyd yn ddiolchgar am waith fy nghyd-Weinidogion a'u parodrwydd nhw i gydweithio i sicrhau cynnydd positif ar faterion sy'n berthnasol i sawl portffolio gwahanol.
Dyma'r cyntaf mewn cyfres o adroddiadau blynyddol ar weithredu'r cynllun cyflogadwyedd, ac rydw i'n edrych ymlaen at barhau â'r gwaith hwn i greu economi sy'n seiliedig ar sgiliau o ansawdd uchel ac sy'n galluogi pobl ac economi Cymru i ffynnu. Diolch.
Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Mae'n amlwg os byddwn yn dymuno sicrhau bod anghenion cyflenwi'r gweithlu ac anghenion busnes yn cael eu diwallu yna bydd yn rhaid cael cydweithio gwell rhwng diwydiant ac addysg. Mae angen i golegau lleol, darparwyr hyfforddiant a phrifysgolion ddeall ac ymateb i ofynion busnesau drwy ddarparu rhaglenni hyfforddi sydd wedi eu teilwra i ateb gofynion sgiliau presennol yng Nghymru. Mae gwaith ymchwil ar gyfer partneriaeth sgiliau rhanbarthol y De-ddwyrain yn dangos bod rhai colegau wedi gwneud cynnydd mawr wrth feithrin perthynas gyda chyflogwyr, ond mae rhai eraill yn cynnig hyfforddiant heb ddeall anghenion busnesau lleol. Felly, beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i ddatrys y broblem hon a sicrhau bod mwy o gydweithredu a chyfathrebu rhwng busnesau ac addysg yn parhau ac yn digwydd yma yng Nghymru?
Mae'r diwydiant adeiladu yn enghraifft o hyn. Ym mis Gorffennaf, gwelodd Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Cymru bod busnesau adeiladu bach a chanolig yn sôn am dwf arafach yn eu gweithgarwch yn ail chwarter y flwyddyn. Un o'r rhesymau a roddwyd am hyn oedd prinder gweithwyr medrus. Roedd dwy ran o dair o'r busnesau yn sôn am anawsterau wrth gyflogi bricwyr a 60 y cant yn sôn am anawsterau wrth gyflogi seiri a seiri coed, tra bod adeiladwyr BBaChau yn sôn am gynnydd yn y llwyth gwaith. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i fynd i'r afael â phrinder sgiliau yn y diwydiant adeiladu, os gwelwch yn dda? Beth mae hi'n ei wneud i newid y canfyddiad gwael ymysg pobl ifanc o'r diwydiant adeiladu fel dewis clir? Mae angen llwybr technegol clir a deniadol ar bobl ifanc gydol eu haddysg ar ôl 16 oed, gyda'r un parch a'r un manteision â llwybrau eraill, mwy traddodiadol. Sut mae'r Gweinidog yn bwriadu hybu prentisiaethau ymysg pobl ifanc fel dewis gyrfa hyfyw, a pha gymorth ariannol fydd yn cael ei gynnig ganddi i weithwyr hŷn, yn ogystal â phobl ifanc, i wella hyfforddiant a sgiliau?
Yn olaf, Llywydd, hoffwn sôn am fater sgiliau digidol. Mae sgiliau digidol yn cael effaith enfawr wrth i dechnolegau newydd gael eu mabwysiadu, ond mae'r newid yn digwydd yn gyflym iawn. Pa ystyriaeth a roddwyd i golegau sy'n creu partneriaeth â diwydiant i gael y dechnoleg a'r offer i sicrhau bod hyfforddiant yn gyfredol ac yn gyfoes? Mae hyn yn hollbwysig os ydym yn bwriadu ateb y galw am weithwyr â sgiliau digidol, yn enwedig mewn meysydd arbenigol fel diogelwch seiber. Gweinidog, rwy'n gwerthfawrogi'r gronfa £10 miliwn newydd ar gyfer datblygu sgiliau , ond hoffwn ofyn i chi faint yr ydych yn ei wario yng nghymoedd y De-ddwyrain ar leiafrifoedd ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol, pobl dros 50 oed, a sut fydd hynny'n cael ei ddyrannu mewn rhai ardaloedd penodol lle mae pobl wedi bod yn ddi-waith ers cenedlaethau. Rwy'n edrych ymlaen at ymateb y Gweinidog ar y pwnc hwn. Diolch.
Diolch yn fawr, Mohammad. Ie, rwy'n credu bod y datblygiad hwn yr ydym wedi ei roi ar y bwrdd, £10 miliwn, wedi gwneud i'r system addysg bellach foeli ei chlustiau a chymryd sylw a deall mewn gwirionedd ein bod yn gwbl ddifrifol o ran yr angen iddyn nhw ymateb i anghenion sgiliau yn yr economi leol. Yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i hynny yw bod pobl bellach yn llawer mwy parod i ymdrin â'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, oherwydd eu bod yn deall, os ydynt yn awyddus i gael yr arian hwnnw, na fydd ar gael iddyn nhw oni fyddant yn ymateb i'r hyn y mae partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny'n ei ddweud. Yr hyn sydd angen ei wneud nawr yw sicrhau bod yr wybodaeth gywir am y farchnad lafur yn mynd i mewn i'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol hynny—felly, cael y bobl iawn o gylch y bwrdd. Ac, er y gallwn gael cwmnïau mawr, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig hefyd inni ganolbwyntio ar fusnesau bach a chanolig a gwneud yn siŵr ein bod yn clywed yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud wrthym am eu hanghenion nhw o ran sgiliau. Nawr, gallwn wneud hynny'n rhannol, efallai, drwy'r sgiliau sector; gallwn ddarllen yr wybodaeth am y farchnad lafur a gwneud yn siŵr fod hynny'n rhan annatod o'r cyfan. Felly, rydym wedi cymryd camau breision ac, wrth gwrs, bydd yn berthnasol i'r adolygiad yr ydym yn ei chael o ran addysg bellach, oherwydd mae angen inni fod yn hyfforddi pobl ar gyfer swyddi sy'n bodoli, neu a fydd yn bodoli, yn hytrach na rhoi hyfforddiant i bobl ar gyfer swyddi nad ydyn nhw'n bodoli. Felly, mae hynny'n newid diddorol rwy'n credu—. Rwy'n falch iawn o ddweud bod colegau addysg bellach wedi ymateb yn gadarnhaol iawn.
Rwy'n credu mai'r mater arall yr oeddech chi'n cyfeirio ato yw prentisiaethau. Nawr, rwy’n credu bod gennym enw da iawn o ran prentisiaethau yng Nghymru. Rydym ar y trywydd iawn o gyflawni ein targed o 100,000 o brentisiaethau ac, wrth gwrs, yr hyn sydd yn rhaid i chi ei gofio yw mai prentisiaethau ar gyfer pob oedran yw'r rhain, felly dim ond tua 25 y cant ohonyn nhw sydd ar gyfer pobl dan 25 oed.
Tlodi mewn gwaith, mae'n debyg, yw un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu yng Nghymru heddiw. Felly, y cwestiwn mawr yw sut mae cael pobl i ymgymryd â swyddogaethau gwell o fewn eu swyddi ac felly ennill mwy o arian. A'r ateb yw hyfforddiant. Nawr, gallwn fynd rhywfaint o'r ffordd tuag at helpu i ddarparu'r hyfforddiant hwnnw. Ond rhan o'r hyn sydd angen ei wneud yw sicrhau bod y cyflogwyr hefyd yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw, ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni wedi ei wneud yn glir iawn, ac yr wyf innau yn ei wneud y glir iawn bob tro y byddaf yn cwrdd â'r cyflogwyr hynny.
Mae'n dibynnu os ŷch chi'n gwrando ar rywun fel Klaus Schwab o'r World Economic Forum—neu Mark Carney yn y dyddiau diwethaf—i ddweud ar ba begwn rŷch chi o ran optimistiaeth neu besimistiaeth o ran potensial awtomeiddio i ddinistrio swyddi. Ond byddai pawb yn derbyn, wrth gwrs, o ran yr angen am sgiliau, mai dyma'r chwyldro mwyaf rydym ni wedi'i weld ers cenedlaethau. A ydy'r Gweinidog yn teimlo bod gyda ni gyfundrefn sy'n barod ar gyfer yr her yma? Oherwydd, os ŷm ni'n meddwl yn draddodiadol, wrth gwrs, o ran y system addysg a hyfforddiant y duedd sydd wedi bod ydy ffocysu ar yr ifanc—er bod dysgu gydol oes yn nheitl eich portffolio—ac wedyn, o ran oedolion, ar bobl sy'n ddi-waith. Ac eto, yng nghyd-destun awtomeiddio, yr angen mwyaf fydd dysgu pobl yng nghanol eu gyrfa, sydd mewn gwaith yn barod, i ailhyfforddi ar gyfer y swyddi a fydd yn dod.
Nawr, y system a oedd gyda ni ar gyfer hynny yn y gorffennol byddem ni wedi ei alw'n ddysgu oedolion—adult education. Roedd Cymru, ar un adeg, ar flaen y gad o ran dysgu oedolion. Edrych ar ble rydym ni nawr. Mae Coleg Harlech yn dadfeilio, fel symbol, a dweud y gwir, o ddiffyg buddsoddi—nid yn unig yng Nghymru gyda llaw; mae'r un patrwm wedi bod yn Lloegr—o ran dosbarthiadau nos ac yn y blaen, lle byddai pobl yn mynd eu hunain i ddringo'r ysgol ddilyniant, naill ai yn yr un sector, neu i ailhyfforddi ar gyfer sector arall. Os ŷm ni'n edrych ar y ffigurau, roeddwn i'n gweld Cymru'n Gweithio, y broses gaffael—rhywbeth fel £600 miliwn yn mynd i mewn hwnnw. Faint sy'n mynd i mewn i ddysgu cymunedol? Rydw i'n gwybod eich bod chi'n ymgynghori ar hyn o bryd, neu mae newydd ddod i ben. Ychydig filiynau sy'n mynd i mewn i'r sector yna, ac eto dyna'r sector sydd yn y lle mwyaf addas ar gyfer gwneud y gwaith o baratoi pawb ar gyfer yr her sy'n dod. Felly, a ydym ni'n gallu gweld newid yn y balans?
A jest yn olaf, Dirprwy Lywydd, cwpl o bethau eraill o ran y Gymraeg. Hynny yw, rydym ni wedi trafod hyn o'r blaen: 0.3 y cant, neu beth bynnag yw'r ffigur o ran prentisiaethau, sy'n cael eu cynnig yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg—cwbl annerbyniol a dweud y gwir. A allwn ni gael addewid pendant y bydd y ddarpariaeth o ran prentisiaethau yn adlewyrchu realiti ieithyddol Cymru, heb sôn am y miliwn o siaradwyr Cymraeg rydym ni eisiau eu creu ar gyfer y dyfodol?
Yn olaf, o ran cyflogwyr, a fyddai'r Gweinidog yn gallu edrych ar y rhaglen sydd yn Singapôr, sy'n cael tipyn o ddiddordeb byd-eang, o'r enw SkillsFuture, sydd yn defnyddio cyflogwyr yn y broses o ddarogan y dyfodol? Hynny yw, mae yna gwmnïau ac yn y blaen mewn sectorau, ac maen nhw'n dweud, 'A allwch chi ddweud wrthym ni'—sydd yn y system, yn cynnig cyngor cyflogadwyedd—'A allwch chi ddweud wrthym ni pa sgiliau rydych chi'n meddwl, fel cwmni, fel busnes, rydych chi'n rhagweld y bydd eu hangen arnoch chi?' Ac mae'n nhw'n defnyddio'r wybodaeth yna yn eu porth sgiliau nhw wedyn er mwyn rhoi gwybodaeth mwy uniongyrchol, efallai, i bobl sydd eisiau hyfforddi ar gyfer y dyfodol.
Diolch yn fawr. Nid wyf fi'n meddwl bod lot o ots os ydych chi'n optimistaidd neu'n besimistaidd; mae'n mynd i ddigwydd, felly mae'n rhaid inni baratoi ar gyfer automation a sut mae hwn yn mynd i gael effaith arnom ni fel unigolion ac fel cymdeithas. Nid oes pwynt i ni esgus ein bod ni'n gallu gwneud unrhyw beth amdano. Mae wedi dechrau ac mi fydd yna gynnydd ac mi fydd hi'n symud yn gyflym iawn, rwy'n meddwl. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n paratoi ar gyfer hynny.
Un o'r pethau rŷm ni'n mynd i sgopio allan ar hyn o bryd yw'r posibilrwydd o greu individual learning accounts, lle byddai hawl gyda pobl i efallai gael credyd i fynd i astudio lle maen nhw mewn gwaith, ond byddwn ni ond yn rhoi caniatâd iddyn nhw astudio lle rŷm ni'n gwybod bod yna ddiffyg gyda ni yn y gweithle. Felly, wrth gwrs, byddai sgiliau digidol yn rhan o hynny. Felly, rŷm ni'n ymwybodol, wrth gwrs, bod wastad issue o arian a lle rŷm ni'n mynd i gael yr arian i wneud cynllun o'r fath, ond rwyf yn meddwl, o ran y meddylfryd a beth y liciwn ni ei wneud, mai dyna yw'r cyfeiriad yr hoffwn fynd iddo.
Wrth gwrs, mae dysgu oedolion, o'r holl bethau sydd wedi cael impact fel canlyniad i austerity—mae hwnnw'n faes sydd wedi cael ergyd fawr. Rŷch chi wedi clywed ddoe yn Lloegr eu bod nhw wedi gwneud analysis ac mae'n nhw hefyd wedi dioddef, felly rŷm ni wedi gorfod ffocysu ein gwaith ni yn fanna i sgiliau hanfodol, i basic skills ac ati, er mwyn sicrhau ein bod ni'n cael rhywbeth mas o'r maes yma. Ond, fe fyddwch chi'n ymwybodol ein bod ni'n aros i glywed nawr beth yw'r canlyniad o'r review yna rŷm ni'n cario allan. I fi, beth sy'n bwysig yw nad ydym yn cymryd y cyfrifoldeb i gyd fel Llywodraeth. Mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd ac mae yna gyfrifoldeb ar gyflogwyr hefyd i sicrhau eu bod nhw hefyd yn mynd ati i helpu datblygu sgiliau'r gweithlu. Felly, nid yw'n iawn bod hyn jest yn rhywbeth sy'n syrthio ar ein hysgwyddau ni.
O ran prentisiaethau yn y Gymraeg, rŷm ni'n cadw golwg manwl arno. Un o'r issues fan hyn wrth gwrs yw bod rhaid i'r cyflogwyr fod yn rhan o hynny. Felly, nid yw'n rhywbeth lle rŷm ni'n gallu dweud, 'Gwnewch hyn'; nhw sydd yn gwneud y prentisiaethau—y bobl eu hunain sy'n cymryd y prentisiaethau sy'n penderfynu a ydyn nhw eisiau ei wneud trwy gyfrwng y Gymraeg. Felly, mae'n anodd iawn dweud, 'Mae'n rhaid i chi ei wneud e.' Wrth gwrs, rŷm ni eisiau gweld cynnydd, ac mae'r canran sy'n gwneud rhywfaint o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg lot yn uwch na'r ffigur roeddech chi wedi'i ddweud.
O ran SkillsFuture yn Singapôr, fe fyddwch chi'n ymwybodol bod cadeirydd ein panel ni ar y review of digital innovation yn rhywfaint o arbenigwr yn y maes yma yn Singapore, felly rwy'n gobeithio y daw rhywbeth allan o hynny. Fe gawn ni weld os cawn ni fwy o fanylion oddi wrtho fe.
Diolch i chi am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n nodi'r hyn sydd yn eich datganiad, ond mae'n rhaid imi ddweud ei fod braidd yn brin o fanylion. Felly, o ganlyniad, mae gennyf nifer o gwestiynau ichi. Er enghraifft, rydych yn honni eich bod yn gwneud cynnydd wrth gyflawni adolygiad sylfaenol o'r fformwla ariannu ar gyfer addysg bellach—credaf fod hynny'n syniad da, ardderchog—ond nid ydych chi wedi dweud unrhyw beth am sylwedd y cynnydd hwnnw. Felly, a wnewch chi roi rhywfaint o fanylion am y cynnydd gwirioneddol yr ydych wedi ei wneud, pa mor bell yr ydych wedi mynd, canlyniadau hynny, pa newidiadau a wnaethoch, pa newidiadau yr ydych yn eu hystyried?
Nodaf hefyd eich bod wedi cyhoeddi lansiad cronfa £10 miliwn i hybu darpariaeth sgiliau rhanbarthol ac anelu at fylchau mewn sgiliau. Mae hybu sgiliau a nodi'r bylchau yn bethau angenrheidiol a hanfodol i Lywodraeth eu gwneud, felly, unwaith eto, syniadau da yn hyn o beth. Ond, beth yw eich asesiad o'r bylchau mewn sgiliau yn y rhanbarthau amrywiol, a sut y daethoch chi i'r casgliadau hyn? Sut ydych chi'n asesu anghenion sgiliau yn y rhanbarthau? Pa ddull yr ydych chi'n ei ddefnyddio? Beth yw eich asesiad o anghenion buddsoddwyr busnes yn y dyfodol o ran sgiliau yn y gwahanol ranbarthau yn y dyfodol?
Gan droi at y rhaglen prentisiaethau, faint o brentisiaethau sydd wedi eu creu yn gyfnewid am yr arian a wariwyd hyd yn hyn? Beth yw eich asesiad o'r rhagolygon hirdymor ar gyfer prentisiaid sydd yn mynd drwy'r cynllun, a sut fyddwch yn mesur canlyniadau'r cynllun mewn gwirionedd? O ran y gefnogaeth i'r lleoliadau i unigolion, a wnewch chi ddweud wrthym pryd fyddwch yn gallu adrodd yn ôl ar ganlyniadau'r arbrawf? Unwaith eto, sut fyddwch yn mesur llwyddiant? Rydych yn dweud ein bod eisoes wedi gweld manteision cydleoli. Mae'n ddigon hawdd dweud ein bod eisoes wedi gweld y manteision, ond a wnewch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, beth yw'r manteision yr ydych wedi eu gweld hyd yn hyn? Rwy'n nodi hefyd eich bod chi'n ymdrechu i gynyddu nifer y bobl anabl sy'n cael eu cyflogi. Rwy'n cymeradwyo eich amcanion yn hyn o beth yn fawr iawn. Mae angen cymeradwyo unrhyw beth sy'n cael ei wneud i gyflogi pobl anabl a'u cael i fod yn annibynnol, ond a wnewch chi roi rhywfaint o wybodaeth am nifer y bobl anabl sy'n debygol o gael cymorth yn sgil y cynllun hwn? Faint ohonyn nhw sy'n debygol o gael eu helpu i mewn i gyflogaeth?
Rydych chi'n datgan bod eich cynllun cyflogadwyedd yn egluro i gyflogwyr beth yw eu cyfrifoldebau i feithrin, hyfforddi a chynnal eu gweithwyr ac i sicrhau dyfodol y gweithlu yng Nghymru. Ond mae gennyf i gwestiwn i chi, Gweinidog. A wnewch chi egluro inni beth sy'n gwneud ichi feddwl eich bod yn gymwys i bregethu wrth gyflogwyr am hyfforddi eu staff? A ydych yn ceisio dod o hyd i ffordd o osgoi'r cyfrifoldeb am asesu anghenion hyfforddiant a darparu'r addysg ar gyfer yr anghenion hynny, gan roi'r cyfrifoldeb hwnnw ar gyflogwyr? Mae rhoi hyfforddiant i gyflogeion hefyd yn costio arian, nid yn unig mae angen talu am yr hyfforddiant, ond mae'r gost o ran yr amser a gymerir i gael yr hyfforddiant. A ydych yn disgwyl i'r cyflogwyr ysgwyddo'r gost hon, neu'r wladwriaeth?
Fy mhrif gwestiwn yw hwn, ac mae'n debyg y byddwch wedi casglu hyn o fy sylwadau blaenorol: sut yr ydych yn bwriadu asesu canlyniadau'r cynllun cyflogadwyedd? Pa fath o berfformiad y byddwch yn ei ystyried yn llwyddiant? Sut fyddwch yn monitro'r defnydd o'r cynllun, ond hefyd ganlyniadau hirdymor y cynllun? Diolch.
Diolch. Yn gyntaf oll, rydym wedi cael trafodaeth eithaf eang â cholegau addysg bellach o ran y fformiwla ariannu. Maen nhw wedi ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw erbyn hyn. Rwy'n disgwyl clywed canlyniadau hynny yn yr ychydig wythnosau nesaf, oherwydd gwyddom y bydd yn cymryd—mae angen inni roi blwyddyn yn ôl pob tebyg i golegau addysg bellach i baratoi ar gyfer unrhyw newidiadau mewn cyllido a all ddod i'w rhan. Felly, rwy'n hyderus iawn fod hynny mewn llaw.
O ran yr ymateb ar sgiliau rhanbarthol, byddwch yn ymwybodol bod yna dair partneriaeth sgiliau rhanbarthol. Maen nhw'n neilltuol i'r rhanbarth, felly maen nhw'n ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn eu hardal. Rydym yn gobeithio—rydym yn disgwyl ac rydym yn annog busnesau lleol i fwydo i mewn i hynny a dweud wrthym beth yw eu hanghenion sgiliau. Ceir panel—mae nifer fawr o bobl ar y bwrdd partneriaeth sgiliau rhanbarthol hwnnw, ac maen nhw wedyn yn llunio adroddiad sy'n cael ei roi i golegau er mwyn iddyn nhw ymateb. Faint o brentisiaethau? Wel, fe wnaethom ni greu tua 24,000 o brentisiaethau yn 2016, a thua 16,000 yn hanner cyntaf y flwyddyn hon. Felly, rwyf i o'r farn, yn wir, ein bod mewn sefyllfa well na'r hyn a fwriadwyd, o ran ein 100,000 o brentisiaethau.
Faint o bobl anabl y byddwn yn eu helpu? Wel, mae hwnnw'n gwestiwn diddorol iawn, oherwydd, unwaith eto, nid rhywbeth y gallwn ei wneud ar ein pennau ein hunain mohono. Mae'r trafodaethau a gefais gyda chyflogwyr—cefais gyfarfod diddorol iawn yr wythnos diwethaf gyda grŵp adnoddau dynol y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu. Dim ond gwrando arnyn nhw—fe wnaethom ni lunio gweithdy i gael gwybod beth allan nhw ei wneud i helpu. Yr hyn sy'n glir, mewn gwirionedd, yw bod angen inni feddwl fwy na thebyg am newid y pwyslais fel ein bod yn rhoi mwy o gymorth i fusnesau a diwydiant fel y gallwn eu helpu i addasu. Maen nhw'n awyddus i'n helpu ni, ac un o'r pethau yr ydym wedi eu gwneud bellach yw creu porth newydd ar Busnes Cymru fel bod yr holl wybodaeth mewn un man. Felly, mae Mynediad i Waith, er enghraifft, yn rhaglen a gynhyrchir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae angen inni wneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth honno, a'r pethau a wnawn ni yn Llywodraeth Cymru, mewn un man.
A ydym yn disgwyl i gyflogwyr hyfforddi eu staff? Ydym. Eu staff nhw ydyn nhw—mae o fantais iddyn nhw eu cyflogi. Rwy'n credu mai rhan o'r broblem yng Nghymru yw ein bod wedi cael llawer o gyllid Ewropeaidd yn y maes hwn a bydd yn rhaid inni ddechrau eu diddyfnu oddi ar y rhagdybiaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gyson yn hyfforddi rhai o'u gweithwyr. Felly, bydd angen i ni gael perthynas well a dealltwriaeth well ei bod o fantais iddyn nhw fuddsoddi yn eu gweithwyr. Mae'r targedau 10 mlynedd yn dra eglur; credaf eu bod wedi'u gosod. Y peth pwysig yma yw ein bod yn dal ati yn ddygn, a dyna pam yr wyf yn benderfynol y bydd gennym adroddiad blynyddol i wneud yn siŵr ein bod yn cyrraedd y targedau hyn.
Mae'r Gweinidog wedi crybwyll lansiad Project SEARCH, sy'n helpu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau i gael gwaith drwy gynnig cymorth ag interniaethau iddyn nhw gyda'r nod o gael cyflogaeth sicr â thâl iddyn nhw ar ddiwedd y lleoliad. Mae'r fenter i'w chroesawu, ond roeddwn eisiau gofyn i'r Gweinidog yn benodol am dudalen 15 y cynllun, sydd yn cynnwys ymrwymiad i leihau nifer y bobl anabl sydd yn ddi-waith. Mae'r cynllun yn dweud:
Gan weithio gyda phartneriaid, byddwn yn sefydlu nodau deng mlynedd priodol i ganolbwyntio ein hymdrechion. Pan fo addasu er mwyn prif ffrydio'r ddarpariaeth yn briodol, byddwn yn annog sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfleoedd am hyfforddeiaethau wedi eu teilwra ar gyfer y bobl anabl hynny sydd eu hangen.
Mae'r ffigurau a roddwyd imi gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn dangos bod nifer y bobl awtistig mewn cyflogaeth amser llawn yn is na chyfartaledd y garfan gyfartalog o bobl anabl. Er enghraifft, mae 32 y cant o oedolion awtistig mewn rhyw fath o gyflogaeth o'i gymharu â 40 y cant ar draws yr holl anableddau ledled y DU. Felly, a fyddai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am gynnydd yr ymrwymiad penodol hwnnw?
Rwy'n credu, fwy na thebyg, o'r holl faterion yn y cynllun cyflogadwyedd hwn, mai hwn yw un o'r materion, yn fy marn i, y mae gwir angen inni ganolbwyntio arno fel Llywodraeth. Mae Project SEARCH yn brosiect rhagorol; es i ymweld ag ef yr wythnos diwethaf ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae hwn yn brosiect gyda'r bwrdd iechyd lleol; maen nhw wedi gweithio gyda'r coleg lleol, gyda phobl sydd ag anableddau dysgu, ac maen nhw wedi rhoi iddynt flwyddyn gyfan o brofiad gwaith, gyda'r amcan y byddan nhw yn y pen draw yn cael swyddi. Rwy'n credu mai dyna'n union y mae angen inni edrych arno. Yn wir, roedd y ffigurau a glywais tra'r oeddwn i yno, hyd yn oed yn fwy trawiadol na'r rhai yr ydych chi wedi eu nodi. Felly, yn ôl eu hawgrym nhw, nifer y bobl awtistig yn y DU heb waith oedd tua 18 y cant. Felly, mae gennym lawer o waith i'w wneud eto yn y maes hwn, a chredaf y dylem fod yn meddwl yn greadigol iawn am sut y gallwn ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru o bosib i ystyried neilltuo swyddi ar gyfer pobl ag anableddau dysgu penodol. Mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn ei ystyried ymhellach yn yr ychydig fisoedd nesaf, oherwydd mae hwn yn faes heriol iawn i ni, ond rwy'n falch iawn eich bod wedi codi hwnnw fel mater.
Gweinidog, roedd gennyf i ddiddordeb mawr, yn wir, yn y sylwadau am Goleg Harlech, a gychwynnwyd gan Adam Price, oherwydd bydd yr Aelodau yn cofio swyddogaeth wirioneddol y Coleg hwnnw o ran hyfforddiant gweithwyr a chynrychiolwyr undebau llafur ac ati yn yr un mathau o faterion a drafodwn nawr. Wrth gwrs, daeth llawer o'r cyrsiau hyn a chyrsiau tebyg eraill mewn colegau i ben ac, yn wir, mewn llawer o ffyrdd gwthiwyd i'r ymylon Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, a oedd mewn gwirionedd yn cyflawni llawer o'r swyddogaethau hyn hefyd.
Rwy'n croesawu'r hyn yr ydych wedi ei ddweud yn fawr iawn. Yr unig bwynt sy'n ymddangos yn gamgymeriad amlwg yw mai prin fu'r sôn am TUC Cymru neu sôn am undebau llafur. Ymddengys i mi eu bod yn hanfodol yn hyn o beth. Felly, pan rydym yn trafod hyfforddiant, prentisiaethau, cydraddoldeb, dysgu gydol oes, datblygiad mewn swydd, y cytundeb economaidd, cyflogau isel, swyddi gwell yn agosach i gartref ac ati, mae'r rhain i gyd yn faterion y mae'r undebau llafur wedi ymwneud â nhw yn benodol ac mae ganddyn nhw lawer iawn o brofiad yma. Ond, a dweud y gwir, ymddengys i mi eu bod yn cael eu hanwybyddu mewn rhyw ffordd, oherwydd nid oedd unrhyw beth yn benodol am eu swyddogaeth nhw. Tybed a allech chi helpu drwy amlinellu yn union sut yr ydych chi'n gweld swyddogaeth yr undebau llafur yn hyn o beth. Beth yn union fydd eu sefyllfa o ran hyn, pa swyddogaethau a roddir iddyn nhw, ble maen nhw'n sefyll o fewn y bartneriaeth gymdeithasol hon? Fy mhryder i yw bod y bartneriaeth gymdeithasol yn gogwyddo braidd yn anghytbwys tuag at un ochr, ac nad yw'n cydnabod y ffaith os na chewch gefnogaeth sefydliadau'r gweithwyr a'r undebau llafur, y bydd gennych eisoes un bêl a chadwyn o gwmpas eich coes, a bydd eich gallu i gyflawni yn cael ei danseilio'n sylweddol.
Wel, fe welwch chi fod yna gyfeiriad at undebau llafur ar dudalen 19, ac rwyf i o'r farn—
Yn hollol. Dyna fy mhwynt i.
Ie. Felly, credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn deall y swyddogaeth bwysig iawn y gallai'r undebau llafur ei chael yn y gweithle. Drwy roi cyllid i bethau fel rhaglen Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, yr hyn a welsom yw bod llawer o bobl nad oes ganddyn nhw'r hyder efallai i chwilio am gymorth gan eu cyflogwyr yn barod i wneud hynny drwy gyfrwng undeb llafur, ac mae wedi rhoi cyfle gwirioneddol i bobl mewn gwaith i ddatblygu. Ac rydym wedi rhoi'r arian hwnnw yn benodol i'r undebau llafur.
Nawr, credaf eich bod yn iawn: mae angen inni ehangu ein dull o ymdrin ag undebau llafur o ran y rhaglen ehangach. Felly, beth allan nhw ei wneud i'n helpu ni, er enghraifft, i argyhoeddi pobl o fewn eu sefydliadau bod modd iddyn nhw ein helpu ni i gynyddu nifer y bobl sy'n anabl yn y gweithle? Felly, rwy'n credu bod angen eu prif-ffrydio nhw, fel petai, a gweithio gyda nhw i bwyso ar y cyflogwyr, oherwydd credaf, o siarad â nhw, yr ymddengys bod pobl yn barod i'n helpu ni, ond mae angen i rywun wthio o'r tu mewn i'r sefydliad. Rwy'n gobeithio, felly, bod honno'n swyddogaeth y gallai'r undebau llafur fod yn awyddus i'w chyflawni.
O ran effaith awtomatiaeth a'r digidol, a drafodwyd eisoes y prynhawn yma, rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at adroddiad adolygiad Brown yn y flwyddyn newydd. Credaf fod Llywodraeth Cymru yn haeddu cael ei llongyfarch am ddod â'r fath banel o arbenigwyr nodedig ynghyd, ac mae hynny'n edrych yn addawol. Ond mae wedi bod yn glir am ryw flwyddyn erbyn hyn nad yw'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol eu hunain yn gwbl effro i'r bygythiad yn sgil awtomatiaeth. Dim ond un o'r partneriaethau sgiliau yn unig a nododd awtomatiaeth yn fater hirdymor iddyn nhw. Felly, o gofio bod Llywodraeth Cymru yn gwybod eu bod yn ddiffygiol yn y maes hwn, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am yr hyn sy'n cael ei wneud i'w cymell i adnewyddu eu dadansoddiad a pha gamau y maen nhw'n bwriadu eu cymryd eu hunain i adfer hyn?
O ran targedau, gwn fod y Gweinidog yn awyddus iawn i'w cynnwys yn y cynllun cyflogadwyedd. Rydym wedi trafod o'r blaen, o'r pum targed hyn, nad ydynt yn dargedau CAMPUS, ac mae dau o'r pump yn ymwneud â chreu setiau newydd o dargedau. Felly, a wnewch chi roi'r diweddaraf inni am y cynnydd o ran cyrraedd y targedau? Yn yr adroddiad ar gynnydd, gosodwyd targed yn ymwneud â phobl anabl, sydd i'w groesawu, ond o ran yr ail darged—nifer y cyflogwyr sy'n rhan o raglen Cymru Iach ar Waith—targed o 40 y cant, nid oes unrhyw darged ar gyfer pryd y caiff hynny ei gyflawni, hyd y gwelaf i. Felly, tybed a allech chi roi'r diweddaraf am wneud y targed hwnnw yn un mwy campus? Diolch.
Ydw, rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at dderbyn canlyniadau adroddiad Brown. Rwyf wedi ysgrifennu at y partneriaethau sgiliau rhanbarthol i ofyn iddyn nhw'n benodol: a wnewch chi roi ystyriaeth i'r digidol yn eich adroddiadau nesaf? Ac rwy'n disgwyl iddyn nhw adrodd yn ôl yn eu hymrwymiad blynyddol nesaf, felly dylai hynny gael ei gyhoeddi yn fuan iawn, iawn ac rwy'n disgwyl gweld newid ac ymateb yn hynny. Felly, mae hwnnw yn rhywbeth yr ydym yn pwyso'n fawr arnyn nhw i'w wneud.
O ran ein sefyllfa o ran y targedau, wel, yr wythnos diwethaf gostyngodd ein ffigurau diweithdra, fel y byddwch yn ymwybodol, i 3.8 y cant, sydd yn is na chyfradd y DU, mewn gwirionedd, ac mae gennym 42,000 yn fwy o bobl mewn gwaith na'r adeg hon y llynedd. Ond rhaid inni fod yn ofalus—ffigurau di-ddal yw'r rhain. Ond credaf y gallwn fod yn falch eu bod yn mynd i'r cyfeiriad iawn. Mae'r un peth yn wir am anweithgarwch economaidd, ond mynydd i'w ddringo yw hwnnw, a gobeithio y bydd ein rhaglen Cymru Iach ar Waith yn ein helpu. Yr hyn yr ydym wedi ei wneud yn awr yw torri'r ffigurau hynny i lawr er mwyn gweithio allan beth yn union—faint o bobl sydd eu hangen arnom ni ac ym mha feysydd i'w cael mewn gwaith o ran anweithgarwch economaidd? Bydd yn anodd, ond rydym yn hyderus nawr fod y rhaglen gywir gennym i weld a allwn wneud tolc yn y ffigurau hynny.
O ran Cymru Iach ar Waith, rydym wedi gosod targed bellach o 40 y cant. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth—. Rwy'n credu ein bod ni tua 36 y cant ar hyn o bryd, ac mae'n amlwg bod y gwaith hawdd eisoes wedi'i wneud, ac mae'n mynd i fod yn fwy anodd. Felly bydd hynny'n darged erbyn 2020 hefyd.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.