Gwisgoedd Ysgol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:30, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A nodaf y sylwadau yn eich datganiad diweddar ynglŷn ag annog rhieni a gofalwyr plant cymwys i wneud cais am gyllid mynediad y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer gwisg ysgol yn arbennig. Ond rwy’n pryderu bod llawer o'r rheini sy'n gymwys ar ei gyfer yn colli allan. O fy mhrofiad personol fy hun yn lleol, mae'r ffordd y mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyfleu i rieni yn anghyson ac mae ei heffeithiolrwydd yn amrywio. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog cynghorau ac ysgolion i hyrwyddo'r gronfa hon i fyfyrwyr, yn enwedig cyn dechrau blwyddyn academaidd newydd?