1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 19 Medi 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol newydd ar gyfer gwisgoedd ysgol? OAQ52592
Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos o hyd yr hydref hwn ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Bydd canllawiau statudol newydd wedi'u diweddaru a'u cryfhau ar waith o fis Medi 2019.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A nodaf y sylwadau yn eich datganiad diweddar ynglŷn ag annog rhieni a gofalwyr plant cymwys i wneud cais am gyllid mynediad y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer gwisg ysgol yn arbennig. Ond rwy’n pryderu bod llawer o'r rheini sy'n gymwys ar ei gyfer yn colli allan. O fy mhrofiad personol fy hun yn lleol, mae'r ffordd y mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyfleu i rieni yn anghyson ac mae ei heffeithiolrwydd yn amrywio. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog cynghorau ac ysgolion i hyrwyddo'r gronfa hon i fyfyrwyr, yn enwedig cyn dechrau blwyddyn academaidd newydd?
Diolch, Vikki. Fel y gwyddoch, am y tro cyntaf erioed y tymor hwn, mae cymorth gyda chost gwisg ysgol ar gael nid yn unig i blant sy'n dechrau yn yr ysgol uwchradd ym mlwyddyn 7, ond hefyd ar gyfer ein disgyblion ieuengaf sy'n dechrau ar eu taith ysgol. Mae'r grant hefyd ar gael i dalu am gostau eraill sy'n gysylltiedig ag ysgol, nid gwisg ysgol yn unig, megis dillad addysg gorfforol, a phethau eraill hanfodol ar gyfer y diwrnod ysgol. Byddaf yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod rhieni'n cael y wybodaeth gywir, fel y gallant wneud cais cadarnhaol i dderbyn yr arian hwn, gan fod arnom eisiau i bob plentyn sy'n gymwys gael y cymorth hwn.
Yn dilyn hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o wahanol storïau ar ddechrau’r tymor ysgol am blant yn cael eu cosbi am nad ydynt yn gwisgo’r wisg ysgol gywir. Rwy’n credu'n gryf yn y syniad ein bod yn awyddus i’r holl blant edrych yr un fath, ac mae'n bwysig iawn ar gyfer disgyblaeth ysgol a morâl ysgol, ac ati. Ond un o'r pryderon sydd gennyf yw'r syniad hwn y dylem gosbi'r plentyn am rywbeth y mae'r rhiant wedi'i wneud. Ac rwy'n bryderus iawn fod—. Mae'n ymwneud nid yn unig â gwisgoedd ysgol—gwn fod Caroline Jones wedi dwyn mater i'ch sylw yn ddiweddar ynglŷn â phlentyn na allai fynd i'r prom am fod ganddi syndrom Asperger ac ni allai gael y graddau. Rwyf wedi tynnu eich sylw yn y gorffennol at y plentyn a gafodd eu cosbi am fod ganddynt afiechyd cronig felly ni allent fod yn bresennol drwy'r amser, ond cosbwyd y plentyn, yn hytrach na bod yr ysgol yn edrych ar yr unigolion dan sylw. A wnewch chi edrych ar hyn eto, oherwydd mater gwisgoedd ysgol, a sut y gallwn gynrychioli plant yn gymesur, neu drin plant yn gymesur, a gwahaniaethu rhwng y rhai nad ydynt yn gwneud pethau y dylent eu gwneud am nad ydynt yn teimlo fel gwneud hynny, a'r rhai sydd mewn sefyllfa letchwith o ganlyniad i benderfyniadau a wnaed gan rieni a gofalwyr, gan y credaf ein bod yn rhoi'r neges anghywir i'r bobl ifanc hynny ynglŷn â chyfrifoldeb?
Angela, yn y pen draw, mae polisi gwisg ysgol yn fater i ysgolion unigol a'u cyrff llywodraethu, a chyfrifoldeb penaethiaid yw penderfynu pa gamau i'w cymryd pan fo disgyblion yn mynd yn groes i bolisi gwisg ysgol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl, os mai’r rheswm dros fynd yn groes i’r polisi yw am fod teuluoedd mewn anawsterau ariannol, y dylai ysgolion ganiatáu cyfnod priodol o amser i brynu'r eitem angenrheidiol, a sicrhau rhywfaint o hyblygrwydd yn y system, heb allu cosbi’r plentyn hwnnw. Mae'r canllawiau hefyd yn amlygu pa gymorth ariannol sydd ar gael i deuluoedd, er mwyn eu cynorthwyo i brynu gwisgoedd ysgol. Mae deialog barhaus rhwng penaethiaid, staff addysgu, a'u rhieni yn rhan hanfodol o unrhyw ysgol lwyddiannus. Ond yn y pen draw, mater i gorff llywodraethu'r ysgol honno yw penderfynu pa gosb, os o gwbl, sy'n briodol os yw rheolau'r ysgol honno yn cael eu torri.
Rwy'n croesawu'r tro pedol a wnaed gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni ar ei chynlluniau i gael gwared ar y grant gwisg ysgol, oherwydd pan fo cyllidebau aelwydydd yn parhau i fod dan bwysau, yn enwedig yn fy etholaeth i yn y Rhondda, byddai wedi bod yn amhosibl meddwl am fwrw ymlaen â hynny. Nawr, oddeutu’r adeg y cyhoeddwyd y cynlluniau annoeth hyn, bûm yn edrych ar ysgolion lleol yn fy etholaeth i weld beth oedd eu polisi gwisg ysgol, a gwelais fod polisi’n amrywio o un ysgol i'r llall, gyda rhai'n mynnu bod yn rhaid prynu eitemau drud, gyda logos, ac eraill yn llawer mwy hyblyg. Fel Sefydliad Bevan, hoffwn weld canllawiau statudol yn cynnwys gofyniad i bob ysgol fabwysiadu gwisg ysgol a all fod yn fwy generig, ac felly'n costio llai. Gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi roi sylw gofalus i gost flynyddol uchel gwisgoedd ysgol i deuluoedd, a cheisio darparu ateb gwahanol i bawb pan fyddwch yn cyhoeddi eich canllawiau statudol?
Wel, fel y dywedais wrth ateb cwestiwn cyntaf Vikki Howells, bydd y Llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am 12 wythnos yr hydref hwn ar bolisi newydd ar gyfer gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Gobeithio y bydd y canllawiau statudol cryfach yn dod i rym ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd, ac yn hollbwysig, fel rhan o'r ymgynghoriad hwnnw, byddwn yn ceisio mynd i'r afael â materion fforddiadwyedd a rhoi hyblygrwydd i rieni. Felly, er enghraifft, wrth benderfynu ar wisg ysgol ar gyfer ysgol uwchradd, a fyddai modd ystyried natur lliw rhai o'r ysgolion cynradd yn yr ardal honno? Nid ymddengys bod angen cael gwared ar drowsus da neu sgert ysgol pan fyddwch yn mynd i'r ysgol uwchradd am eich bod yn symud i ysgol wahanol. Felly, mae llawer o ffyrdd y gallwn fynd i'r afael â phroblemau fforddiadwyedd a dyna yw diben yr ymgynghoriad a pham rwy'n benderfynol o gyflwyno canllawiau statudol ar hyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn falch iawn o weld y cyhoeddiad y byddwch yn ymgynghori ar ganllawiau statudol, oherwydd, fel y gwyddoch, mae’r ddogfen bolisi bresennol yn dda iawn, mewn gwirionedd, ac yn rhoi llawer o bwyslais ar wisg ysgol enerig. Ond buaswn yn dadlau nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn dilyn y canllawiau hynny fel y dylent, ac rwy'n siŵr eich bod wedi gweld yr adroddiadau yn gynharach y mis hwn am blant yn cael eu cadw mewn neuadd am nad oeddent yn gwisgo trowsus â brand, sy'n gwbl annerbyniol. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi y byddwch yn mynd i’r afael â hyn yn gadarn iawn? Ond yn bwysig iawn, sut y byddwch yn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed drwy'r ymgynghoriad hwn?
Wel, Lynne, fel y nodwyd yn gywir gennych, mae yna ganllawiau ar gael yn barod. Fe’u cyhoeddwyd ym mis Medi 2013, ond nid ydynt o natur statudol. Y rheswm pam rwy'n benderfynol o fynd i'r afael â'r mater hwn yw er mwyn inni allu rhoi sylfaen ddeddfwriaethol i'r hyn a ddisgwyliwn gan gyrff llywodraethu a fydd yn gorfod rhoi sylw dyledus i'r canllawiau wrth ddatblygu eu polisïau eu hunain. Mae hyn hefyd yn rhoi cyfle inni nid yn unig i edrych ar fater fforddiadwyedd mewn perthynas â gwisgoedd ysgol ond ar rai o'r materion na chawsant eu trafod yn 2013, fel gwisgoedd niwtral o ran rhywedd. Mae hyn yn rhoi cyfle inni drafod y materion hynny yn awr, ac yn amlwg, bydd barn plant a phobl ifanc yn allweddol yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, a byddwn yn sicrhau bod cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan fel y gallant ddweud wrthym sut y maent yn teimlo am fater gwisg ysgol a'r rôl y mae'n ei chwarae yn eu bywydau ysgol.
Tynnwyd cwestiwn 2 [OAQ52569] yn ôl. Cwestiwn 3, felly, Andrew R.T. Davies.