Gwisgoedd Ysgol

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 1:36, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, roeddwn yn falch iawn o weld y cyhoeddiad y byddwch yn ymgynghori ar ganllawiau statudol, oherwydd, fel y gwyddoch, mae’r ddogfen bolisi bresennol yn dda iawn, mewn gwirionedd, ac yn rhoi llawer o bwyslais ar wisg ysgol enerig. Ond buaswn yn dadlau nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn dilyn y canllawiau hynny fel y dylent, ac rwy'n siŵr eich bod wedi gweld yr adroddiadau yn gynharach y mis hwn am blant yn cael eu cadw mewn neuadd am nad oeddent yn gwisgo trowsus â brand, sy'n gwbl annerbyniol. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi y byddwch yn mynd i’r afael â hyn yn gadarn iawn? Ond yn bwysig iawn, sut y byddwch yn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed drwy'r ymgynghoriad hwn?