Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 19 Medi 2018.
Felly, bydd blwyddyn a hanner arall, mae’n debyg, tan inni gael diffiniad o rywbeth sydd yn hollol, hollol amlwg a chlir a syml, sef beth yn union ydy Cymraeg cwrteisi. Rwyf newydd enghreifftio hynny—pethau fel dweud 'bore da', 'prynhawn da', a medru ynganu geiriau Cymraeg yn gywir. Dyna i gyd ydy o; y lefel isaf un o sgiliau iaith Gymraeg. Felly, nid wyf fi’n deall pam ei fod yn cymryd gymaint o amser i gyflwyno hyn. Yr unig beth fedraf i feddwl ydy nad yw'r ewyllys ddim yna i fwrw ymlaen efo hyn, ac mai dyna sydd y tu ôl i hyn, ac nad ydych chi’n barod, fel Llywodraeth, i ddangos yr esiampl glir yna sydd ei angen.