Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 19 Medi 2018.
Wel, diolch yn fawr. Fel y dywedais i, rwyf wedi cwrdd â'r Ysgrifennydd Parhaol i drafod yr union fater yma ddoe. Mae rhan o beth oedd yn cael ei argymell yn yr adroddiad, rwy'n meddwl, yn ymwneud â diffiniadau o yn union beth sy'n cael ei olygu wrth ba lefel o Gymreictod, ac rwy'n meddwl bod hynny yn issue rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni ei drafod ymhellach. Mae yna ffyrdd o wneud hynny ac mae'n rhaid i ni gael gwell dealltwriaeth o hynny. Mae hi, rydw i'n gwybod, wedi gofyn am fwy o waith i gael ei wneud ar y mater yma, ac wrth gwrs, bydd rhaid i hynny wedyn ymwneud â'r ffordd rŷm ni yn mynd i sicrhau bod ein nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr yn rhan annatod o beth rŷm ni’n ei wneud yng nghanol Llywodraeth Cymru.