Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 19 Medi 2018.
Wel, diolch am eich ateb. Mae'n cymryd naw mis i gynhyrchu plentyn; roeddwn yn gobeithio y byddai cynhyrchu cod wedi bod ychydig bach yn gynt. Nid y Ddeddf safonau ysgolion a'r Mesur hawliau plant a phobl ifanc yw'r unig ddarnau o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i ad-drefnu ysgolion; mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn grym bellach, ac rwy'n falch o ddweud, yn ystod y newidiadau hyn—ac yn wir, fe gyfeirioch chi at hyn yn gynharach hefyd—rydych wedi dweud fwy nag unwaith y gall bodolaeth ysgol fach yn y gymuned fod yn hollbwysig i gynaliadwyedd y gymuned honno. Ar ba adeg y dylai awdurdod addysg ystyried egwyddorion Deddf cenedlaethau'r dyfodol? Ai yn ystod y broses o benderfynu a ddylid mynd ati i ymgynghori ynghylch cau ysgol, neu yn ystod unrhyw ymgynghoriad?