Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n synnu braidd y byddech yn credu y byddai diogelu plentyn yn ymylol i unrhyw beth, ond fe symudaf ymlaen.
A allwch ddweud wrthyf a ydych wedi cael unrhyw sgyrsiau gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ynglŷn â ffordd y gall plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref gael gwiriadau meddygol tebyg neu'r un gwiriadau meddygol â phlant sy'n cael eu haddysgu mewn ysgol arferol?