Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 19 Medi 2018.
Mewn gwirionedd, y bore yma, cefais gyfarfod gyda'r prif swyddog nyrsio i ddeall sut, fel rhan o'n pecyn gwell o gymorth i rieni sy'n dewis addysgu yn y cartref, y gallwn sicrhau bod y plant hynny'n cael mynediad at rai o'r gwasanaethau iechyd y byddent yn eu cael fel arfer yn yr ysgol. Felly, i lawer ohonom—fe fyddwch yn gwybod, os oes gennych blant yn eu harddegau, y byddant yn cael brechiadau yn yr ysgol uwchradd. Felly, y bore yma, bûm yn trafod mater canolfannau brechu gyda'r prif swyddog nyrsio fel y gall plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref gael mynediad at y gwasanaethau hynny.