Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:47, 19 Medi 2018

Diolch yn fawr. Mae gen i gopi o adroddiad sy'n dangos bod gennych chi weithgor mewnol o uwch-weision sifil wedi cael ei sefydlu, fel rydych chi'n ei ddweud, a hynny yn ôl yn haf 2016. Mae'r adroddiad yn argymell y dylai gwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru ymrwymo i fod yn sefydliad dwyieithog efo'r Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd gweinyddol swyddogol erbyn 2036. Fel rhan o hynny, mae'ch gweision sifil yn dod i'r casgliad bod yn rhaid gwneud lefel o beth sy'n cael ei alw'n Gymraeg cwrteisi neu Gymraeg sylfaenol yn ofynnol ar gyfer pob swydd yn Llywodraeth Cymru fel man cychwyn. Rydym ni efo'n gilydd tan y pwynt yma. Mae nifer o gyrff, gan gynnwys Comisiwn y Cynulliad, Heddlu De Cymru a Chyngor Sir Gâr, wedi cyflwyno model cwrteisi o'r fath, sy'n golygu meddu ar sgiliau dwyieithog cwbl sylfaenol fel, er enghraifft, ynganu geiriau Cymraeg yn gywir a chyfarch yn syml, fel 'bore da', 'prynhawn da', 'hwyl fawr' ac yn y blaen. Ond, fis diwethaf, mewn llythyr ataf i, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol nad oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i wneud lefel cwrteisi cwbl sylfaenol o'r fath yma yn ofynnol. Felly, flwyddyn a hanner ers i adroddiad eich arbenigwyr argymell hynny, pam fod Llywodraeth Cymru heb allu ymrwymo i weithredu mesurau cwbl sylfaenol o'r fath, ac onid ydy hi'n hen bryd i'r Llywodraeth arwain drwy esiampl?