Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 19 Medi 2018.
Rwy'n awyddus iawn i weld yr holl athrawon sy'n gweithio yn ein system yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu talu'n briodol. Rwy'n fwy nag ymwybodol o'r pryderon a fynegwyd ynghylch y graddfeydd cyflog sy'n gysylltiedig â'r bobl a gyflogir gan asiantaethau. Fe fyddwch yn gwybod, rwy'n gobeithio, ein bod yn gweithio'n agos iawn gydag MPS Education i baratoi ar gyfer unrhyw broses dendro newydd y byddant yn cychwyn arni yn y gwanwyn eleni, er mwyn sicrhau bod y fframwaith y maent yn ei gynnig yn addas i'r diben ac yn ymgorffori'r egwyddorion a gymeradwyir yn y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi ac egwyddorion gwaith teg.
Rydym hefyd yn awyddus i gyflwyno safonau sicrwydd ansawdd gorfodol ar gyfer asiantaethau cyflenwi fel y byddai'n rhaid i unrhyw asiantaeth fasnachol sy'n dymuno cyflenwi athrawon dros dro i ysgolion a gynhelir yng Nghymru fodloni gofynion penodol, ac rwy'n credu y byddai safonau'n cefnogi ysgolion ac athrawon cyflenwi ac yn gwella ansawdd addysgu a chyfleoedd dysgu ar gyfer myfyrwyr. Felly, rydym yn archwilio llu o ffyrdd y gallwn sicrhau bod yr holl athrawon sy'n gweithio yn ein hysgolion ar sail ran amser neu ar sail cyflenwi yn cael eu trin yn deg ac yn cael eu talu'n briodol.