Cyfraddau Cyflog ar gyfer Athrawon Cyflenwi

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:15, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, mae ymgyrchwyr yn honni bod athrawon cyflenwi yng Nghymru yn gorfod cymryd swyddi ychwanegol i gadw deupen llinyn ynghyd, ac mae llawer yn ystyried gadael y proffesiwn yn gyfan gwbl. Maent yn honni bod yr arfer o gyflogi athrawon cyflenwi drwy asiantaethau wedi arwain at gyflogau is a thelerau ac amodau gwaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu annibynnol i wneud argymhellion yn hyn o beth. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod i'r Cynulliad hwn yn awr pryd y bydd hi mewn sefyllfa i wneud cynnig yn seiliedig ar argymhellion y tasglu, os gwelwch yn dda?