Hyrwyddo Lles Emosiynol mewn Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 2:16, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i les emosiynol, gwytnwch ac ymyrraeth gynnar fod yn flaenoriaeth genedlaethol a chroesawaf y cyhoeddiad diweddar parthed ymagwedd ysgol gyfan, a thynnwyd sylw at yr angen am hynny yn adroddiad gwych y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cadernid Meddwl'. Derbyniodd y pwyllgor dystiolaeth gan y Samariaid, sydd wedi creu DEAL—offeryn datblygu ymwybyddiaeth emosiynol a gwrando ar gyfer athrawon. Bydd hi'n hanfodol cynnwys ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac emosiynol yng nghymwysterau hyfforddiant cychwynnol athrawon. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen newydd yn siarad gydag athrawon sy'n defnyddio'r offeryn DEAL i weld beth y gellir ei ddysgu o'u profiadau?