Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch am eich cwestiwn. Mae'n amlygu rhai o'r heriau a wynebwn wrth geisio sicrhau integreiddiad a chydwasanaethau rhwng iechyd a phartneriaid llywodraeth leol ynghyd â'r trydydd sector, yn ogystal â rhai o'r heriau diymwad a wynebwn yn sgil y gostyngiadau parhaus mewn arian cyhoeddus.
Y newyddion da, wrth gwrs, yw ein bod, yn gyffredinol, yn gweld cyfraddau goroesi strôc ar gynnydd. Yn Aneurin Bevan, er enghraifft, dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o 15 y cant yn y cyfraddau goroesi ymhlith pobl sy'n 75 oed a hŷn. Mae hynny'n newyddion da, ond mae'r her o ran sut y gweithiwn gyda'n gilydd ar draws y meysydd hynny yn cael ei datblygu gyda'n gilydd, mewn gwirionedd, rhwng y partneriaid hynny.
Rwy'n optimistaidd ynghylch gallu Aneurin Bevan i wneud mwy. Mewn gwirionedd, maent wedi ad-drefnu eu gwasanaethau strôc ar draws ardal y bwrdd iechyd. Mae hynny'n gam a gefnogir gan y Gymdeithas Strôc, a dylai hynny eu cynorthwyo i ddarparu cymorth adsefydlu cynharach hefyd. Mae'n fater rwy'n parhau i fod â diddordeb ynddo, yn ogystal â thrafodaethau ynghylch y bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn wir o ran sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd fel partneriaid.
Byddaf yn edrych eto ar y materion ariannu y mae'n eu codi, ond fel y dywedaf, mae a wnelo'r rhain ag awdurdodau lleol yn gwneud eu dewisiadau hefyd.FootnoteLink Nid wyf mewn sefyllfa i'w cyfarwyddo ynghylch defnyddio'u cyllidebau, ond credaf y gallwn sicrhau cytundeb ehangach rhwng partneriaid ynglŷn â sut i ddarparu'r gwasanaethau priodol ar gyfer dinasyddion, boed yn wasanaethau iechyd neu wasanaethau llywodraeth leol.